Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn i'r hen Rechabite! Mi fu agos iddo dagu! Y babŵn! A finne'n deud—'peidiwch â chrio, Mr. Huws bach.' Hwyrach 'mod i'n ddrwg; ond mi fyddaf yn licio deud rhwbeth i flino hen lancie—rhwbeth—bydawn i'n medrud a dynne waed o'u calon nhw. Ond mae Enoc yn well na miner cyffredin.Poverty has no choice, bydae hi'n dwad i hynny. Mae gynno fo bres, lot, mae'n nhw'n deud. Dyna un good point. Ond mae o mor hen ffash! A mae hi wedi dwad i hyn, Susi? Wel! wel! Fy idea i wastad—os na phriodwn i er mwyn arian—oedd bod dros 'y mhen a 'nghlustie mewn cariad â rhwfun, a 'nhaflu fy hun drwy'r ffenest i'w freichie dri o'r gloch y bore, a rhedeg i ffwrdd i briodi hefo special licence! 'Does gen i ddim 'mynedd hefo rhai sy'n priodi'n sad yn y capel—mae'n gas gen i eu gweld nhw. Ac eto, hwyrach mai felly y bydd hi hefo finne. Efo miner cyffredin'? Byth bythoedd! bydae raid i mi 'moddi fy hun! Be oedd ar y nhad isio, tybed, hefo Enoc? I sugno fo i fewn, 'ddyliwn, 'run fath â Hugh Bryan, druan! a Mr. Denman. Ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth rhag llwgu. 'Dydw i ddim yn cofio'r munud yma a ddeudes i'mhader? Pa ods—y pader gore i mi heno ydi good cry yn 'y ngwely!"

***** RHIF III. "Ydech chi'n effro, Sarah? neu, mewn geiriau eraill, ddaru chi gysgu?"

"Y?"

"Sarah, deffrowch, deffrowch. Mae gen i eisie cael siarad â chi."

"Be ydi hi o'r gloch, Richard?"

"Wel, mae hi tua hanner nos, neu, efallai, dipyn gwell. Fel mae'r amser yn mynd! Ydech chi'n effro, Sarah? Mae gen i—ydech chi'n effro? Ho. Wel. Mae gen i ofn 'y mod i wedi'ch synnu a'ch brifo heno, Sarah. Ond y mae gen i gymaint wedi bod ar 'y meddwl yn ddiweddar