Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

—mae'r pressure wedi bod mor fawr, mewn ffordd o siarad, nes oeddwn i 'n ofni i'r boiler fyrstio, ac yr oedd yn rhaid agor y falf yn rhywle, a ph'le y gallwn i wneud hynny ond yn fy nheulu? Wrth bwy y gallwn ddeud fy helynt ond wrthoch chi a Susi? Ond erbyn i mi ail ystyried pethau—peidiwch â chrio, Sarah, peidiwch, 'rwyf yn crefu arnoch erbyn i mi ail ystyried pethau, fel y dywedais, hwyrach fy mod—yn wir, yr wyf yn sicr fy mod—wedi gorliwio ein sefyllfa, a'i gosod allan, dan gynhyrfiad y foment, yn waeth nag ydyw. Fase raid i chwi ddim, Sarah, redeg i'ch gwely mewn digalondid. Na, gyda bendith y Brenin Mawr ni gawn damaid eto. Yn wir, efallai y bydd hi'n well arnom nag y bu hi erioed. Hyd yn oed bydae pethau yn dyfod i'r gwaethaf, mae gen i olwg ar rywbeth, ac y mae gen i eisiau i chwi, Sarah, roi Susi dan ei warnin i beidio â sôn gair wrth neb am ddim a ddywedais i heno mewn tipyn o fyrbwylltra. Wedi i chwi fynd i'r gwely fe fu Mr. Huws, Siop y Groes, yma. Gŵr ieuanc rhagorol iawn ydyw Mr. Huws—wedi gwneud yn dda—ac yr wyf yn meddwl, yn wir, yr wyf yn siŵr, y bydd ef yn fodlon i ymuno â ni yn y fentar newydd. Un neu ddau eraill fel Mr. Huws, a ni fyddwn yn all right. Mae o'n wan—yn wan iawn—wedi gorweithio ei hun yn ddiamau.—Wnewch chwi ddim siarad, Sarah?"

"I be y gna i siarad? 'does gen i ddim synnwyr."

"Dyna ddigon, dyna ddigon, Sarah, peidiwch a sôn am hynyna eto. Yr oeddwn yn ofni fy mod wedi eich brifo, Sarah, ac y mae'n ddrwg gen i am hynny, neu, mewn geiriau eraill, yr wyf yn edifarhau, ac mae'r Gair yn dweud, 'Na fachluded yr haul ar eich digofaint,' ac fe ddylem, yn wir, yr wyf yn gostyngedig feddwl eich bod chwi a minnau, hyd yn hyn, wedi ceisio, hyd yr oedd ynom, gadw at reolau'r Gair, a hyd yn oed yn yr amgylchiad hwn, er mor anhyfryd ydyw, i mi yn neilltuol, yr wyf yn meddwl y gellwch gadw at y rheol a grybwyllwyd, yn gymaint â bod yr haul wedi machludo cyn i