Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chwi ddigio, ac na chaiff, mi obeithiaf, fachludo ar eich digofaint. A ydech chi wedi maddau i mi, Sarah, yn ôl fel y mae'r Gair yn annog?

"Dydw i ddim wedi madde i chi, Richard, am 'y nghadw i yn y twllwch sut yr oedden ni'n sefyll yn y byd. a be ddeudith pobol pan ddôn nhw i wybod am ein tlodi ni, a ninne wedi cario 'mlaen fel ryden ni?"

"Wel, chwi wyddoch, Sarah, mai dyna ydyw fy natur i—'dallai i ddim wrtho. Mae o ynof erioed er yn blentyn sef gordynerwch—gor-dynerwch. Fedrais i erioed ladd hyd yn oed wybedyn, ac yr ydw i yn cofio'n burion pan—welsoch chwi mo 'nghap nos i, Sarah? O, dyma fo!—yr ydwyf yn cofio yn dda, meddaf, pan fyddai 'nhad yn lladd cyw iâr, neu yr hyn oedd waeth, yn lladd mochyn, y byddwn yn gorfod mynd oddi cartref nes i'r creulondeb fynd trosodd, ac er nad oedd â fynnof i, yn uniongyrchol, ddim â lladd y mochyn, mi fyddwn yn teimlo rhyw fath o euogrwydd am wythnosau, ac nid heb lawer o gymell o du fy mam y gallwn gymryd dim o'r bacwn pan ddeuai yn gymwys i'w fwyta. Chwi wyddoch eich hun, Sarah, fel y crugais pan laddwyd Job Jones, druan! ym Mhwll y Gwynt. Fe ddywedid y pryd hwnnw fod tipyn o esgeulustra, ond allwn i ddim wrth hynny, er mai dan fy ngofal i yr oedd yr holl waith, a'm bod yn wyneb y gyfraith, yn gyfrifol, mewn ffordd o siarad, am farwolaeth Job, druan! Chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i mi grugo, meddaf, a mi ddeudaf i chwi beth na ddeudais erioed o'r blaen, sef i mi fod fwy nag unwaith ar fin gwneud amdanaf fy hun, a hynny yn cael ei gynhyrchu gan ordristwch am farwolaeth y llanc. Ac, mewn rhan, mi roddais y bwriad hwnnw mewn gweithrediad, oblegid, chwi wyddoch i mi, yn yr amgylchiad hwnnw, golli mwy na deugain pwys yn fy mhwysau. I ba le yr aeth y deugain pwys hynny, yr hyn oedd yn rhan wirioneddol ohonof i fy hun? Wel, mewn ffordd o siarad, fe ellir dweud fy mod wedi comittio suicide arno, neu, mewn geiriau eraill, wedi ei offrymu