Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar allor calon drist neu or-dynerwch. Ac, hwyrach y bydd yn anodd gennych fy nghredu, Sarah, ond y gwir yw—ni fyddaf byth yn cyfarfod â mam Job heb ddweud ynof fy hun: Dyma fam y bachgen y darfu i mi ei ladd!' Yr ydych cyn hyn, Sarah, wedi bod yn fy ngheryddu am nad ydwyf yn mynd i'r seiat ond an—fynych, gan awgrymu fy mod yn dirywio yn fy nghrefydd; ond, a wyddoch chwi mai'r prif reswm am hynny ydyw tynerwch fy nghalon, ac am na allaf edrych ar fam Job heb deimlo rhyw fath o euogrwydd, er bod y peth yn afres—ymol i'r eithaf. A ydych yn gweled erbyn hyn, Sarah, paham y darfu i mi gadw oddi wrthych ein gwir sefyllfa? Gor—dynerwch ydyw'r rheswm am y cwbl. Yn hytrach na'ch gwneud chwi'n anhapus, yr oedd yn well gennyf gadw yr holl bryder a'r helynt i mi fy hun—hyd yr oedd yn bosibl. Nid am nad oedd gennyf ymddiried ynoch chwi, Sarah, y buasech yn ei gadw i chwi eich hun, ac nid am fy mod yn anghofio'r cyfarwyddyd ysbrydoledig y dylem ddwyn beichiau ein gilydd, ond er mwyn arbed eich teimladau a pheidio â thorri ar eich dedwyddwch. Ond y mae gennyf hyn i'w ddweud—fod gennyf gydwybod dawel, a'm bod wedi gwneud fy nyletswydd."

"Sut yr ydech chi wedi gneud eich dyletswydd, Richard, a chithe'n gwybod nad oedd ene ddim llond eich het o blwm ym Mhwll y Gwynt?

"Y mae dyletswydd a dyletswydd, Sarah. Fy nyletswydd i, fel Capten, oedd gweithio dros y Cwmpeini, a rhoi prawf teg a gonest ar y gwaith,—a oedd yno blwm ai peidio. Yrwan yr wyf yn gallu dwêud nad oes llond fy het o blwm ym Mhwll y Gwynt, ond, o drugaredd, ni wyddwn hynny flynyddoedd yn ôl. Mae busnes, Sarah, yn beth dieithr i chwi, ac ofer fyddai i mi geisio ei egluro. Gadawn y peth yn y fan yna heno. Ond y mae gennyf eisiau sôn gair wrthych am beth arall, er fy mod yn teimlo yn bur gysgadlyd. Chwi wyddoch fod Susi yn dechrau mynd i oed, ac fe ddylasai'r eneth fod wedi priodi cyn hyn.. Ydych chwi ddim yn meddwl, Sarah,