yr oedd yr ystorm drosodd, a'i wraig a'i ferch yn gwybod am ei sefyllfa cystal ag yntau. Serch hynny, meddyliai'r Capten ei fod, wrth roi'r datguddiad, wedi gwneud un camgymeriad; a hwnnw oedd y darluniad cywir a roddasai o'i fywyd twyllodrus. Nid oedd wedi rhagfwriadu gwneud y fath beth. Gwyddai'r Capten yn burion fod Mrs. Trefor yn edrych arno fel cynllun o ddyn da, anrhydeddus. Ond, erbyn hyn, teimlai ei fod wedi andwyo'r gyfaredd honno, ac nid oedd y fath gamgymeriad, cyfaddefai wrtho ei hun, yn deilwng o Capten Trefor. Nid addefai am eiliad fod a wnelai'r chwisgi ddim â'r camgymeriad, er ei fod wedi ei gael o le newydd. "Na," ebe'r Capten wrtho'i hun, mae'n rhaid mai cael blas a ddaru mi ar wneud clean breast—'roedd y peth mor amheuthun i mi! A pheth garw ydyw dechrau, yr un fath â gwraig wedi dechre glanhau'r tŷ, a chael blas—rhaid iddi gael gorffen."
Pan ddaeth y Capten at y bwrdd brecwest, gwyddai ynddo'i hun ei fod yn greadur newydd yng ngolwg Mrs. Trefor, a phe na buasai'n gwybod felly, yr oedd y peth yn rhy amlwg yn ei hwyneb hi. Yr oedd tristwch anobeithiol yn ei doi, yn lle'r serch a'r edmygedd arferol.
Tra'r oedd Mrs. Trefor yn tywallt y coffi mewn dis—tawrwydd prudd, a'i hwyneb fel cwmwl ar fin glawio, yr oedd y Capten â'i ddau benelin ar y bwrdd, a'i ddwylo ymhleth, yn lefel â'i drwyn, yn gwylio am gyfle i ofyn. bendith—peth nis gwnaethai o'r blaen ers tro byd. Ebe fe wrth y forwyn :
"Gellwch chi, Kitty, fynd yrwan, mi wnawn y tro yn burion." Wedi ychydig ddistawrwydd, gan droi wyneb hawddgar at Mrs. Tefor, ychwanegodd: "Sarah, mi wn ar eich gwedd eich bod wedi cymryd yr hyn a ddy—wedais neithiwr yn ormodol at eich calon. Dylem gofio bod y teuluoedd gore a'r Cristionogion mwyaf gloyw, weithiau, yn cyfarfod â phethau chwerwon yn eu ham—gylchiadau. Yn wir, y mae enghreifftiau yn yr Ysgrythur Lân—megis Jacob, Job, a Dafydd. Ac yr wyf wedi bod