yn meddwl, Sarah, y gall fod rhywbeth ynom ni yn galw am yr oruchwyliaeth hon, ac y bydd, yn y diwedd, er ein lles ysbrydol. 'Dydw i fy hun, mi wn, ddim wedi bod hanner digon diolchgar am y daioni a'r llwyddiant y gwelodd Rhagluniaeth yn dda ei gyfrannu i mi am gynifer o flynyddoedd, ac yr wyf yn tueddu i feddwl mai cerydd oddi wrth yr Arglwydd ydyw hyn i'm dwyn i roi mwy o bris ar bethau ysbrydol nac ar bethau daearol. Beth meddwch chwi, Sarah?
Torrodd Mrs. Trefor allan i wylo, ac yn y cyfamser helpiodd y Capten ei hun gydag ychydig ychwaneg o'r bacwn. Wedi gwneud hyn, ebe fe:
"Sarah, Sarah, peidiwch, peidiwch ag ymollwng yn eich ysbryd. Mi wn fod y peth yn gryn shock i chwi, ac erbyn hyn, mae'n ddrwg gennyf na bawn wedi gadael i chwi wybod yr amgylchiadau yn raddol, fel yr oeddwn i fy hun yn dyfod i'w gwybod; ond buasech felly wedi eich gwneud yn druenus ers llawer o amser, a'r trueni hwnnw heb fod yn gwella dim ar yr amgylchiadau, ond yn hytrach yn eu gwaethygu. 'Dydw i yn beio dim arnoch, Sarah, am grio—mi fyddwch yn well ac ysgafnach. Nid ydyw natur, ysywaeth, wedi fy nghynysgaeddu i â'r outlet hwnnw i'r teimladau—yr wyf yn gorfod cadw fy ngofid i gyd oddi mewn, yr hwn sy'n fy mwyta'n raddol, ond yn sicr. Pa fodd bynnag, Sarah, rhaid i chwi wneud ymdrech i ymgynnal, a rhoi'ch hyder ar Dduw, a minnau gyda chwi."
'Rydech chi wedi 'nhwyllo i Richard," ebe Mrs. Trefor, gan sychu ei llygaid.
Sut felly, Sarah? Yr wyf wedi eich arbed, mi addefaf, ond y mae twyllo yn air cryf," ebe'r Capten.
"Fel hyn," ebe Mrs. Trefor, gan wneud ymdrech i'w meddiannu ei hun: yr ydech wedi peri i Susi a finne gredu ei bod hi'n dda arnoch—'rydech chi wedi gadel i ni gael popeth oedden ni'n 'i ddymuno—'rydech chi wedi'n dysgu ni—nid mewn geiriau, mi wn, ond yn y'ch ymddygiad i edrach i lawr gyda thosturi ar dlodion, a