Tudalen:Profedigaethau Enoc Huws (Addasiad 1939).djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PENNOD XVI

Gŵr a Gwraig.

TEIMLAI'R Capten yn llawen iawn ei fod unwaith eto wedi ennill ymddiried ei wraig, ac ebe fe:

"Nid oeddwn heb ofni, Sarah, eich bod wedi ffurfio syniad anghywir amdanaf—a hynny mewn tipyn o frys. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Ond er bod dyn yn aml, fel y mae gennym amryw enghreifftiau, yn cael crefydd mewn noswaith, nid oes gennym, hyd yr wyf yn cofio, sôn am neb yn ei cholli mewn noswaith. Mae amgylchiadau, weithiau, yn peri i ddyn siarad amdano ei hun mewn gwedd na fynnai ei harddel yn ei funudau mwyaf tawel. Ond yr wyf yn hyderu, Sarah, ein bod, erbyn hyn, yn deall ein gilydd; ac er eich bod chwi, am foment, megis, wedi fy ngholli yn y fintai, yr wyf yn hyderu, meddaf, eich bod yn argyhoeddedig, erbyn hyn, mai yr un ffordd yr ydym ein dau yn ei cherdded. Ond, fel y mae'n digwydd yn rhy fynych, yn y fuchedd hon, rhaid i ni adael y pethau gwir bwysig—hynny ydyw pethau yr ysbryd, a dyfod i lawr i ystyried' ein hamgylchiadau bydol. Mi ddywedais wrth Kitty am beidio â galw ar Susi i godi er mwyn i mi gael hamdden i siarad gair â chwi, Sarah. Nid ydyw pobl ifanc ddi-brofiad bob amser yn gall, ac er nad oes fawr berygl iddi wneud, mae arnaf eisiau i chwi, Sarah, roi Susi ar ei siars i beidio â sôn gair am ddim a ddywedais neithiwr, a'i chyfarwyddo, yn eich ffordd eich hun, yn yr eglurhad yr wyf wedi ei roi i chwi, Sarah. Yr adeg yma ddoe yr oedd y dyfodol yn ymddangos i mi yn dywyllwch perffaith; ond erbyn bore heddiw yr wyf yn credu, Sarah, fy mod yn gweled cwmwl megis cledr llaw gŵr, er nad ydyw'r' gymhariaeth, hwyrach, yn briodol, ond yr ydych yn deall fy meddwl, Sarah. Mae'r posibilrwydd i mi allu cadw cartref cysurus yn dibynnu yn hollol ar a allaf i ddechrau gwaith newydd, ac y mae'r posibilrwydd