hwnnw yn dibynnu i raddau mawr ar Mr. Enoc Huws, Siop y Groes. Os ymuna Mr. Huws â ni, ac yr wyf yn mawr gredu y gwna, mae gennyf obaith am fywoliaeth. gysurus eto; ond os gwrthyd Mr. Huws, nid oes gennyf, ar hyn o bryd, neb arall mewn golwg. Mae gennyf bob lle i gredu fod gan Mr. Huws lawer o arian, ac y mae cael un o'i fath ef i gychwyn gwaith yn well na chael cant o dlodion. Mewn gair, mae fy ngobaith am ddyfod allan o'r dryswch presennol yn dibynnu'n hollol ar Mr. Huws. Yn awr, Sarah, mi grybwyllais neithiwr, mewn byr eiriau, am beth arall. Mae'r cwestiwn yn un delicate, mi wn, ond, fel y gwyddoch, mae Susi yn dechrau mynd i oed, a dylasai yr eneth fod wedi priodi cyn hyn, a gwneud cartref iddi ei hun, oblegid 'does neb ŵyr beth all ddigwydd i mi, yn enwedig gan nad ydyw fy rhagolygon—er nad ydynt yn ddiobaith—mor ddisglair ag y buont. Wel, yr wyf yn meddwl, Sarah, fy mod yn adnabod dynion yn weddol. Os nad wyf yn camgymryd ac yr wyf yn meddwl y cewch fy mod yn iawn,—amser a ddengys, y mae gan Mr. Huws feddwl am Susi. Hwyrach nad ydyw Mr. Huws ddim y peth y darfu i ni un tro feddwl i Susi ei gael—hwyrach nad ydyw'r peth y buasai hi ei hun—heb ei chyfarwyddo yn gosod ei bryd arno. Ond y mae'r amgylchiadau wedi newid, a hyd yn oed pe na baent wedi newid, yr wyf, o'm rhan fy hun, yn methu gweld pam na wnâi Mr. Huws burion gŵr i'r eneth. Beth ydych chi'n 'i ddweud am hyn, Sarah? Yr ydych yn dallt fy meddwl?"
"Ydw, Richard," ebe Mrs. Trefor, " yr ydw i'n dallt ych meddwl chi'n burion; ond ddymunwn i ddim fforsio'r eneth i gymryd neb. A pheth arall, hwyrach, pan ddaw Mr. Huws i ddallt yn bod ni'n dlawd na feddylith o ddim chwaneg am Susi."
"Yr ydych yn dallt calon merch, Sarah," ebe'r Capten —"'does neb, hyd y gwn i, yn ei dallt yn well, ond 'dydech chi ddim yn dallt calon mab. Yr ydych yn cofio'n burion, Sarah, pan ymserchais i ynoch chwi, i