Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'w ffydd, yn enwedig "awel o Galfaria fryn" o'i wlad ei hun. Euthum gyntaf i Gymanfa Gyffredinol Presbyteriaid Sgotland. Yn Edinburgh cynhaliwyd cyfarfod mawr a anerchwyd gan H. W. Nevinson a'r Arglwyddes Aberdeen, a fu yn Nulyn gynt gyda'i gŵr, a oedd yn Arglwydd Raglaw y Brenin. Dywedodd yr hen arglwyddes fod milwyr ac arfau yn tyrru i Iwerddon, ac mor fawr oedd ei phryder rhag i anfadwaith gael ei gyflawni; daeth hithau'n unswydd o Iwerddon i geisio deffro'r wlad i erchyllterau y rhyfel yno. Cyfaill pennaf yr Efengylydd a'r gwyddonydd yr Athro Henry Drummond ydoedd yr arglwyddes, ac yr oedd yn dirion a thrugarog ac yn llawn serch at Iwerddon. Cynigiwyd a phasiwyd yn y cyfarfod cyhoeddus yn Edinburgh apêl at y Gymanfa Gyffredinol, a oedd yn eistedd ar y pryd, yn erfyn arnynt ddefnyddio eu dylanwad i atal y difrod a'r dialedd yn Iwerddon. Cefais ymgom hir â'r arglwyddes a'i gŵr am Iwerddon; prin y gallai gredu y byddai i'r Prif Weinidog fentro ffordd arall, ac yr oedd ei phryder a'i gofid yn fawr. Cyfarfûm â hi nifer o weithiau yn y misoedd canlynol a chefais lythyrau oddi wrthi am flynyddoedd. Erys ei choffadwriaeth yn wynfydedig fel Cristion tyner ac fel hen fam yn Israel. Bu am flynyddoedd wedyn yn llywydd ar Gyngor Cyd-genedlaethol y Gwragedd, ac yn fawr ei pharch ar y Cyfandir fel yn ei gwlad ei hun. Euthum o Edinburgh i Borthmadog am fod Lloyd George yn ŵr gwadd i'r Sasiwn yno. Bwriadwn apelio ato'n gyhoeddus yn ei wlad ei hun a cherbron crefyddwyr Cymreig am anturio'r "ffordd arall" yn Iwerddon. Ond wrth eistedd yn y galeri a gwrando arno'n astud, er fy mawr syndod, cefais fy hun yn cydweled yn hollol â'r hyn a ddywedai, sef nad dyletswydd yr eglwysi oedd gwneuthur protest yn unig, na chymryd plaid, ond yn hytrach galw'r ddwyblaid ddig i dir uwch yr Efengyl. Gadewais i'r Prif Weinidog wybod hanes ymddiddan cyfrinachol a fu yr wythnos honno rhwng cyfaill o Grynwr a Heddychwr, a de Valera, a oedd yn ffoadur ar y pryd rhag y milwyr Seisnig.

Dyma rai o eiriau'r Cymro enwog i'r Sasiwn a haedda ystyriaeth am fod cynrychiolydd Cesar teyrnas y byd hwn yn apelio at gynrychiolwyr Crist:

"Na foed i ni syrthio i bechod parod y dallbleidiwr gan gymryd arnom fod pob brwydr boliticaidd yn frwydr rhwng dynion da a dynion drwg. Yr un yw swydd uchel yr Eglwys mewn perthynas â gwleidyddiaeth ag