ydyw mewn perthynas â busnes neu a rhyw wedd arall ar egnïon cymdeithas sef dysgu, cyfeirio a glanhau'r gydwybod ddynol. . . Geill pleidiau a phartïon gael eu ffurfio yn y Cynghrair; a rhyw ddydd a ddaw, pan fo'r mwyafrif ar un ochr a'r gallu mwyaf ar yr ochr arall, dichon y ceir gweled na wnaeth dadleuon Cynghrair y Cenhedloedd amgen na pharatoi'r ffordd i'r gwrthdrawiad mwyaf a welodd y byd erioed. Rhaid creu barn gyhoeddus iach drwy'r holl fyd dros heddwch ac yn erbyn creulondeb rhyfel. Trist yw meddwl ynglŷn â'r Rhyfel Mawr diweddar fod y cenhedloedd a ymladdai yn erbyn ei gilydd yn genhedloedd Cristionogol mewn enw, ac na ddarfu i ddylanwad Roll eglwysi cred ynghyd oedi y rhyfel am gymaint ag un awr ac na chanwyd clychau heddwch un awr ynghynt drwy unrhyw ddylanwad a ddaeth o'r eglwysi. ... Rhaid cael rhywbeth a ddylanwada ar galon y bobl. Rhaid deffro cydwybod y bobl fel y casânt y syniad o dywallt gwaed ac y cyfrifont ryfel yn bechod yn erbyn dynoliaeth. Gwaith yr eglwysi a'r cynhadleddau yw creu awyrgylch iach o blaid heddwch ac yn erbyn rhyfel, gan adael i wladweinwyr profedig benderfynu ar y moddion gorau a'r mwyaf effeithiol i sicrhau heddwch a brawdgarwch ymhlith y cenhedloedd. . . Gall, a dylai, yr Eglwys ddysgu ac ail-ddysgu, cymell ac ail-gymell dyletswydd y ddwy blaid i feithrin mwy o ysbryd cariad ac ewyllys da a mwy o barodrwydd i geisio sylweddoli safbwynt y gwrthwynebydd, i ymarfer dioddefgarwch, ac i wneuthur i eraill fel y dymunent i eraill wneuthur iddynt hwythau."
Ceisiais wedyn, yn Sasiwn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ganiatad i erfyn arnynt godi eu llais dros gymod, yn ôl awgrym y Prif Weinidog; ond gan nad oedd hyn ar yr agenda, yr oedd rhaid i mi ymfodloni ar ddweud gair yn y fynwent wrthynt pan yn gwasgaru. Euthum ar fy union oddi yno i Lundain i gyfarfod yr Arglwyddes Aberdeen ac eraill, a oedd yn dal yn daer i geisio deffro cydwybod y wlad i'r galanastra yn Iwerddon. O'r cyfarfod anfonwyd dau ohonom i Downing Street gyda'r apêl am i arweinwyr y ddwy blaid gyfarfod ac ymresymu ynghyd. Yr wythnos honno, er ein mawr syndod, anfonwyd gwahoddiad i drafod heddwch gan Lloyd George at de Valera. Trist ydoedd meddwl am ddiffyg tystiolaeth a mentar yr eglwysi Cymreig dros weinidogaeth y Cymod gan mai Cymro oedd y Prif Weinidog. Wedi ymweled â Dulyn, a chael ymgom â de Valera ac arweinwyr eraill, dychwelais gyda'r hanes i Lundain. Yno disgrifiais y sefyllfa i'r hen Archesgob, y Dr. Davidson, a gwrandawodd yn astud. Credai fod ymddygiad y Pab yn wan iawn, na buasai wedi condemnio'r holl lofruddio yn Iwerddon; eglurais wrtho fod y Pab wedi dweud, "Gwaed eich brodyr yr ydych yn ei dywallt," a bod Esgob ac eglwysi Catholig Tuam yn dal mewn gweddi ac erfyniad dwfn am