heddwch, Gofynnais iddo yntau erfyn am weddïau a chefnogaeth yr eglwysi i anturiaeth heddwch y Prif Weinidog. Dywedai y gallai'r Anghydffurfwyr ddigio am hynny, ac nad oedd Eglwys Loegr yn unfryd, a bod yn rhaid amddiffyn deddf a threfn. Meiddiais ofyn onid oedd angen Gras yn hytrach na deddf yn awr. "Gwn hynny," meddai, "ond byddai raid i mi ofyn i'r Brenin cyn gwneuthur apêl o'r fath i Gristnogion y wlad, ac y mae yntau'n ddig iawn am y tywallt gwaed, ac yn fodlon mentro myned ei hunan i Iwerddon pe byddai hynny o help." Yn y diwedd ysgrifennodd lythyr personol dwys a da i'r Times yn pwysleisio yr angen am ffydd a gweddi dros ein Llywodraeth yn yr anturiaeth newydd am heddwch.
Diwedd Y stori ydoedd cyfarfyddiad cyntaf Lloyd George a de Valera, ac wedyn trafodaeth faith a dyrys a benderfynnodd, yn ôl cyfaddefiad de Valera ei hun, naw pwynt allan o'r deg yn foddhaol. Y maen tramgwydd olaf ydoedd ffurf llw Aelodau Seneddol Iwerddon o deyrngarwch i'r Brenin. Yr oedd y cynrychiolwyr Gwyddelig yn barod i gydnabod y Brenin, ond nid i dyngu llw o ffyddlondeb ffug i un a ymddangosai ychydig fisoedd cynt yn ormeswr caled. Nid ildiai Toriaid y Glymblaid ar ffurf y llw; rhybuddiwyd llys-genhadon Iwerddon, yn ôl Lloyd George, fod y Cadoediad ar fin terfynu; bygythiwyd hwynt, yn ôl adroddiad y Gwyddelod, y byddai'r rhyfel yn ail-ddechrau yn y man onid arwyddid y Cytundeb a'r llw y noswaith honno. Ac felly, dan orfodaeth amgylchiadau, neu fygythiad canlyniadau, yr arwyddwyd y Cytundeb, heb ryddid ysbryd a heb ras yn yr awr olaf. Gwadwyd awdurdod y llw gan de Valera, oherwydd ei orfodaeth, ac yn fuan diarddelwyd Lloyd George o arweiniad y Glymblaid gan Doriaid Tŷ'r Arglwyddi, am iddo aberthu cymaint o hawliau Prydain. Caled yw dilyn ffordd y Tangnefeddwr a chadw'n boblogaidd â'r byd. Oherwydd i'r Cymro enwog fentro mor bell i geisio heddwch a chytundeb, collodd ei swydd uchel ac ni chafodd swydd fyth wedyn yn Llywodraeth Prydain.
Caled hefyd yw gweled dynion yn drwg-dybio amcanion ei gilydd mewn gwleidyddiaeth. Y gŵr a gymerodd y cam cyntaf i wrthwynebu'r "trafodaethau cywilyddus" â De Valera, fel y galwodd hwynt, ydoedd Arglwydd Salisbury. Anfonais ato ef ar y pryd i ddweud yr hyn a wyddwn am