Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ynghyd â'r bardd Æ, golygydd yr Irish Statesman. Pan yn ymadael o'r tŷ, dywedodd Æ wrthyf ei fod ar ganol ysgrifennu llyfr yn archwilio sylfeini ysbrydol a moddion heddwch, a'i fod wedi myned i'r dwfn ynddo yn fwy nag yn un llyfr a ysgrifennodd erioed. Cyhoeddwyd y llyfr dan yr enw The Interpreters, gwaith clasurol ac ysbrydol a fydd byw wedi'r genhedlaeth hon. Yr oedd Æ yn heddychwr ac yn gydweithredwr o'i hanfod, ac wedi gwneuthur llawer gyda Syr Horace Plunkett i hyrwyddo cydweithrediad amaethyddol yn Iwerddon. Dyma lythyr olaf Erskine Childers. i'w wraig:

Dywedwyd wrthyf y saethir fi am saith yn y bore ac yr wyf yn berffaith barod. Gwelaf ei fod yn well felly o'r safbwynt uchaf. Y mae gennyf gred yng nghynllun daionus ein tynged, a chredaf fod Duw yn bwriadu hyn fel y gorau i ni, ac i Iwerddon ac i'r ddynoliaeth. Y mae marwolaeth milwr hefyd yn beth mor syml. A fydd i'r genedl ddeall a pharchu cymhellion ein cymrodyr yn ein hachos? Credaf y bydd. Pe bai fodd i mi farw gan wybod y byddai fy marw rywfodd—ni wn sut—ond yn achub bywydau eraill, a rhoi terfyn ar y polisi o ddienyddio. Tawelwch—y mae hwnnw gennyf o'r diwedd mewn modd nad oedd gennyf o'r blaen. Aequanimitas—y fath anfeidroldeb a ddatgan y gair-ffydd, gobaith, sancteiddrwydd, ymostyngiad, ac ewyllys da at bawb. Gwelaf bwerau mawrion yn rhwygo, a hefyd yn rhwymo, ein pobl yn eu profedigaethau. Yr wyf yn marw yn llawn cariad angerddol at Iwerddon. Gobeithiaf y bydd, rhyw ddydd, i'm henw gael ei glirio yn Lloegr. Teimlais yr hyn a ddywedodd Churchill am fy 'nghasineb' a'm 'malais' yn erbyn Lloegr. Mor dda y gwyddai nad oedd yn wir. Pa linell a ysgrifennais erioed i gyfiawnhau'r fath gyhuddiad? Yr wyf yn marw gan garu Lloegr. ac yn gweddïo y bydd iddi newid yn llwyr ac yn derfynol tuag at Iwerddon."

Ysgrifennais at C. P. Scott, y Manchester Guardian, i erfyn arno ddefnyddio ei ddylanwad i rwystro dienyddiad Childers. Atebodd nad oedd yn cydweled â Childers nac yn dymuno ymyrryd yng ngwleidyddiaeth Eire, ond ei fod wedi gwneud ei orau mewn ysgrif yn y Manchester Guardian. Dywedodd yn ei ysgrif nad oedd ganddo hawl i ymyrryd, ond i gyflwyno i'r Gwyddyl ei argyhoeddiad a'i brofiad, sef mai doethineb pennaf gwleidyddiaeth Prydain oedd ei datganiadau o haelfrydedigrwydd, a oddefai i droseddwyr euog amlwg gael maddeuant a myned yn rhydd.

Y mae geiriau cyngor olaf C. P. Scott i lywodraeth newydd Iwerddon yn werth eu hystyried yn ddwys yn nyddiau dial a rhyfel fel profiad un o'r gwŷr cywiraf a dewraf ymhlith y Rhyddfrydwyr a golygydd newyddiadur heb ei fath ym Mhrydain yn ei ddydd: