Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dysgais mor gaeth yw cynrychiolwyr Gweriniaeth i'w nerth a'u llu politicaidd, y farn gyhoeddus gyfnewidiol, a'r Wasg wamal. Felly hefyd yr oedd y swyddogion milwrol hynny a fynnai haelioni a gwir heddwch wedi'r rhyfel yn gaeth i'r gyfundrefn, megis Arglwydd Kitchener yn Ne Affrica, a'r Arglwydd Haig wedi'r rhyfel diwethaf. Bu enghreifftiau trawiadol o hyn yn helynt Iwerddon. Saethwyd Major Compton Smith yno, fel ad-daliad, pan yn garcharor i fyddin Sinn Fein; lladdwyd y Cadfridog Michael Collins gan ei hen gymrodyr gynt; a dienyddiwyd y Major Erskine Childers gan Lywodraeth gyntaf Sinn Fein. Yr oedd Compton Smith yn swyddog yn yr "R.W.F.", ac yn uchel ei barch gan y Cymry a'i gyd-swyddogion, fel y clywais gan un ohonynt, y Parch. Morgan Watkin Williams, M.C., Merthyr. Cyn ei ddienyddio ysgrifennodd y llythyr a ganlyn at ei wraig:

"Saethir fi ymhen yr awr, fy anwylyd. Bydd i'r eiddoch chwi' farw gyda'ch enw ar ei wefusau, eich wyneb o flaen ei lygaid, a bydd farw fel Sais a milwr. Ni allaf ddweud wrthych, fy nghariad, gymaint o beth yw eich gadael chwi ar eich pen eich hunan, ac mor ychydig o beth yw i mi'n bersonol farw. Nid oes arnaf ofn, dim ond y cariad eithaf, mwyaf a thyneraf atoch chwi, a'n hannwyl Anne fach. Gadawaf fy mlwch sigaret i'r Gatrawd, fy medalau i'm tad, a'm horiawr i'r swyddog sydd yn fy nienyddio, am fy mod yn credu ei fod yn foneddwr, ac er mwyn nodi'r ffaith nad wyf yn teimlo'r un malais ato am iddo gario allan y peth a' gred sy'n ddyletswydd arno."

ac i'w Gatrawd:

"Carwn i chwi wybod, fechgyn, fy mwriad i farw fel Royal Welsh Fusilier, gyda gwên a maddeuant i'r rhai sydd yn cario allan y weithred. Carwn i'm marwolaeth leihau, yn hytrach na chynyddu, y chwerwedd sydd rhwng Lloegr ac Iwerddon. Duw a'ch bendithio oll, fy nghymrodyr."

Ar ôl i'r llythyrau hyn ymddangos yn y Wasg, sylw Prif Gadfridog y Gwyddyl ydoedd, "Ni allwn ddal ymlaen i ymladd gwŷr fel Compton Smith."

Gŵr arall a adwaenwn oedd y Major Erskine Childers, a oedd yn nai i gyn-Ganghellor y Trysorlys, yn glerc i bwyll- gorau yn y Senedd, ac yn swyddog yn y llynges yn y Rhyfel Mawr. Gwyddeles oedd ei fam. Yr oedd Childers yn gyfaill agos i de Valera ac yn ysgrifennydd i Ddirprwyaeth Eire yn y Gynhadledd Heddwch. Ond yr oedd yn hollol wrthwynebus iddynt arwyddo'r llw i'r Brenin dan orfodaeth. Wedi hynny, ymunodd â phlaid de Valera yn y rhyfel cartref, a daliwyd ef a'i saethu gan Lywodraeth Cosgrave. Bûm ar ei aelwyd am oriau yn 1921 yn trafod materion heddwch,