Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ym Môn gyda'm cenadwri; cywilyddiwyd fi'n aml wedi hynny gan hogiau'r ffermwyr a hwsmyn gwlad oherwydd eu cwrteisrwydd a'u croeso a'u parodrwydd i gredu posibilrwydd ymarfer â duwioldeb cyfeillgarwch Crist tuag at y rhai a wnaeth elw mawr yn y rhyfel ar gefn eu llafur a'u cyflog bychan. Gwelaf hwynt eto yn eu 'sgidiau mawr a'u melfared yn cyfarfod mewn hen ysguboriau dan olau'r lamp,

"Yn hogiau go anhygar,
Taeog eu gwedd, tew eu gwar'

a chofiaf ambell hen hwsmon yn codi i ddweud, "Ffordd Iesu Grist bia hi hogiau; ennill yr hen ffarmwrs, mae O'n siŵr ohoni hi."

Gwahoddwyd fi i'r Bwrdd Cymod yn Llŷn am fod y ddwy-blaid wedi methu cytuno. Wedi imi wrthod bod yn "farnwr nac yn rhannwr" yn eu plith, ac egluro mai mater o agwedd ac ysbryd a mentar ffydd oedd trafod materion yr anghydwelediad, trefnwyd i mi annerch yr amaethwyr yn Ffair y Sarn a'r gweision yn Rhoshirwaun ar egwyddorion cymod. Cofiaf y llu o weision pen Llŷn, a'r drafodaeth a ddilynodd fy nghais iddynt ymwadu â phob bygwth a gorfodaeth ar eu gwrthwynebwyr wrth apelio am eu hiawnderau. Penderfynwyd yn y diwedd dynnu allan gais i'r Cyfarfod Misol i'w arwyddo gan y dynion, i erfyn am arweiniad i gyrraedd cyfiawnder yr oriau rhesymol a'r cyflog deg a gydnabuwyd gan Gomisiwn y Corff fel hawl y gweithiwr. Penodwyd pwyllgor cryf gan y Cwrdd Misol i ystyried yr holl gwestiwn, a thynnwyd allan benderfyniad doeth ar ddyletswydd meistr a gwas. Fe'm gwahoddwyd innau yno i annerch ar "Frawdoliaeth Dyn," a chafwyd trafodaeth fyw a chynnes yng ngwydd ffermwyr a gweithwyr heb roi y tŷ ar dân gan fater mor llosg. Clywais wedyn i'r ymdrafodaeth gael dylanwad mawr ar ysbryd y Bwrdd Cymod a'r cynrychiolwyr, a welodd ei gilydd o'r newydd fel brodyr yn yr Eglwys, yn hytrach na phleidwyr. Enwaf hyn i egluro nad oes raid i'r Eglwys aros yn fud yn amser rhyfel gwlad na phlaid, rhag ofn llosgi ei bysedd wrth ymyrryd. Y gamp yw ymwrthod ag ymbleidiaeth a rhagfarn plaid a cheisio tynnu'r ddwyblaid yn un a dweud y gwir mewn cydymdeimlad deallus.

Y gair olaf a gefais ar y mater oddi wrth arweinydd y gweision yn Llŷn ydoedd a ganlyn: