Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon
A. RUTH FRY (Three Visits to Russia: 1/-)

Fe ddisgrifir y Genhadaeth Hedd ryfedd hon yn llawn, yn ei holl amrywiaeth o ffydd a gweithredoedd gras, yn y Quaker Adventure gan A. Ruth Fry, merch yr enwog Farnwr Cyd-genedlaethol, Syr Edward Fry, a weithredodd fel ysgrifennydd yr holl anturiaeth. Gwelir yma ddull newydd o Genhadaeth Hedd, nid yn gymaint y pregethu ond gwneuthur gweithredoedd cenhadol crefydd Crist i'r rhai sydd mewn angen-y newynog, y sychedig, y claf, yr estron a'r carcharor. Ni allaf anghofio drwy hyd fy ngharchariad olaf am naw mis yng ngharchar Birmingham, na phallodd dau hen Grynwr, marsiandwyr pwysig, ymweled â mi bob wythnos, a threfnu cyfarfod bach o weddi a chyfeillach a'm cynhaliodd ar hyd y misoedd blin.

CENHADAETH GARTREF

Yn fuan wedi fy rhyddhau o garchar, deallais nad ar y Cyfandir yn unig yr oedd achos ac effaith y rhyfel, ond ei fod mewn cyflawn arfogaeth yn Iwerddon, yn crynhoi yng nghymoedd y De, ac yn cael ei fagu ar feysydd Môn. Clywais fod teimladau drwg iawn yn codi rhwng amaethwyr a'u gweision ynghylch eu dogn isel a'u horiau hir. Mewn rhai mannau bygythiwyd rhoi'r das wair ar dân, a throwyd y gwas trwy'r drws mewn ambell le arall. Nid oedd Undebiaeth eto wedi cyrraedd ymhell ymhlith gweision amaethyddol, ac yr oedd cryn wrthwynebiad iddo. Gwyddwn trwy brofiad yn ystod y rhyfel beth oedd gweithio ar ffarm am wyth swllt o gyflog mewn wythnos, a thorri cerrig ar y ffordd wedyn am bedwar swllt. Wedi gweddïo am arweiniad i drafod y rhyfel cartref oedd wrth fy nrws, euthum i guro ar ddrws Pwyllgor Gwaith Undeb y Gweithwyr yn Llangefni, ac wedyn i erfyn arnynt gredu a gweithredu ffordd Crist tuag at eu gormeswyr a'u gwrthwynebwyr. Er fy mawr syndod, yn lle cael fy nhroi trwy'r drws, cefais wrandawiad astud, a chroeso a chennad calonnog i fyned trwy'r Undeb