Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ac na byddwn yn rhydd fy meddwl heb wneud y cwbl oedd yn fy ngallu drostynt. Yna, wedi iddo ddweud y drefn gryn dipyn am Undebaeth Llafur, dywedodd nad ef oedd yn gyfrifol am drafodaethau o'r fath, ond y prif gyfarwyddwr. Gofynnais a allwn ei weled, ond nid oedd yn Glasgow. Cynigiais fyned i unrhyw fan yn Sgotland i'w weled, a chefais addewid o'r diwedd gan yr ysgrifennydd i ohebu ag ef, ac arhosais yn Glasgow dros y Sul. Bore Llun euthum drachefn i'r swyddfa, a bûm yn aros peth amser "ar y mat" ac yn teimlo yr edrychid arnaf fel cranc yn busnesa tu hwnt i'm hawl. Toc daeth yr ysgrifennydd heibio a golwg ffwdanus arno. Dywedais wrtho na fynnwn ei gadw am eiliad, ond cael clywed a gafodd ryw ateb oddi wrth y prif gyfarwyddwr. Atebodd, "Y mae yn y swyddfa y munud yma, a chyfle iawn i chwi ei weled." Yr oedd yntau yn amlwg wedi gwneud tipyn o bont. Wrth ddisgwyl am y gŵr mawr mewn ystafell hardd, yr oedd yr ysgrifennydd dipyn yn nerfus, ond dywedai, "Yr oedd ein gweinidog ddoe yn pregethu am angen y byd am gymod, ond y mae'r byd wedi mynd â'i ben iddo—y farchnad yn cwympo ar bob llaw, a'r Undebau Llafur mor afresymol.

Toc daeth y gŵr mawr i mewn, ac er fy syndod yr oedd yn ŵr hoffus, naturiol a rhydd. Eglurodd wrthyf nad mater o frwydr yn erbyn Undebiaeth ydoedd, bod rhai o arweinwyr Llafur yn gyfeillion personol iddo, ond fod y cais am godiad cyflog ym Mhenmon, a'r bygythiad o streic, wedi dod ar adeg pan oedd y ffwrneisiau haearn yn cau y naill ar ôl y llall, am nad oedd adeiladu llongau bellach â'r haearn. Defnyddiwyd y garreg galch ym mhroses y ffwrneisiau haearn. Wedi trafod y mater yn llawn, gofynnais a gawn i ei ganiatad i egluro'r mater drachefn i Swyddog yr Undeb? Cymylodd ei wyneb dipyn: "Yn ôl a glywaf, dipyn o bluffer yw ef." Atebais fy mod yn ei adnabod fel dyn hoffus a chywir. "Wel, rhyngoch chwi ag ef, ond ni allaf addo yr agorir y chwarel yn y cyflwr y mae'r farchnad yn awr." Yna euthum i sôn am bethau cyffredinol, am Undeb y Myfyrwyr, a gobeithion cymod rhwng cenhedloedd. Modd bynnag, ffarweliodd yn garedig a chynnes. Ysgrifennais yr hanes llawn at fy nghyfaill ym Môn, a thrennydd cyfarfûm ag ef yn Abermaw. Wrth i mi ail-adrodd y manylion, daeth gwên o amheuaeth ar ei wyneb, "Ofnaf ei fod yn eich blyffio chwi."