"Wel," meddwn, "dyna'r gair yn union a ddefnyddiodd amdanoch chwi. Pa fodd, mewn difrif, y mae disgwyl heddwch tra byddo amheuaeth o'r fath dan y cwbl?"
Llaw ar gledd, arall ar groes
Gogeled pawb ei einioes;
Gan amau cymod nid oes.
"O 'rwyf yn barod i fyned ymhell i'ch cyfeiriad chwi, ond yn Y diwedd efallai y bydd yn rhaid ei ymladd hi allan."
O'r diwedd, cytunodd i ymweled a'r prif gyfarwyddwr pe medrwn drefnu cydgyfarfyddiad rhydd a phersonol. Ysgrifennais i Glasgow, ond cefais ateb ymhen ryw ddeng niwrnod fod y streic wedi ei diweddu'n heddychlon ers tridiau. Cefais y llythyr a ganlyn oddi wrth fy nghyfaill ym Môn:
"Fe gyfarfu'r gweithwyr, ac ar ôl trafod y safle o bob cyfeiriad a gwrando arnaf finnau yn rhoddi adroddiad o'ch ymweliad chwi á Glasgow, fe basiwyd gyda mwyafrif fy mod i, a dirprwyaeth o'r dynion, yn myned i weled y goruchwyliwr er cael gwybod beth oedd y cwmni yn barod i'w wneud. Yr oedd ymweled â'r goruchwyliwr y tro hwn yn bur wahanol i'r tro o'r blaen. Yr oedd cyfnewidiad amlwg yn ei ymddygiad a'i ysbryd, ac yr oedd y Directors wedi anfon ato ynglŷn â'ch ymweliad chwi, a chasglai ei fod wedi gadael argraff ragorol arnynt, ac y mae'n debyg fod y dylanwad wedi cyrraedd Penmon. Modd bynnag, bu'r cyfnewidiad ysbryd yn help anghyffredin i rwyddhau'r ffordd i heddwch, a sicrhawyd ddoe ar ôl ymweliad y Goruchwyliwr â Glasgow. Diolch yn fawr am eich ymdrech i ddwyn heddwch."
Cefais lythyr hefyd oddi wrth ysgrifennydd lleol yr Undeb:
"Cwmni ystyfnig iawn y cyfrifir hwynt, ac anodd iawn eu symud. Hefyd y mae'r goruchwyliwr sydd ganddynt yn y chwarel o'r un stamp a hwythau; ond y mae yntau, yn ôl pob argoelion, wedi cael troedigaeth a chyfnewidiad ysbryd, a bydd gwell dealltwriaeth a chydweithrediad yn bod rhwng y cyflogwyr a'r cyflogedig o hyn allan. Dyma'r ysbryd yn ddiau sydd yn ddiffygiol yn y wlad hon, neu mae'n ddiamau na fuasai cymaint anghydwelediadau."
Rhoddaf y llythyrau hyn yn eu manylion oherwydd fy argyhoeddiad fod maes eang cymod wrth ddrws yr eglwysi ac wrth law i lawer lleygwr ond iddynt gymryd y Genhadaeth Hedd o ddifrif.
Cofiaf ddeugain mlynedd yn ôl ysgrifennu at ŵr colegol i holi am obaith mynediad i'r coleg i gael goleuni ar fy nryswch crediniol. Atebodd: "Os bydd rhyw wybodaeth sicr i'w gael am Dduw, chwi a'i gwelwch yn siŵr yn y papur newydd." Ateb ffol, ond nid ffolach na disgwyliad llawer-