Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd a ddisgwyl am weled heddwch yn y papur ac a ddywed Wele yma neu Wele acw" am ryw frwydr neu fuddugoliaeth newydd. I heddwch, ac i gymod, y mae gwreiddiau cuddiedig a dyf yn aml megis "gwreiddyn o dir sych." Nid oes gair yn Llundain am y miloedd o weithredoedd cyfeillgar a chymwynasgar a gadwodd y Rhondda wrth ei gilydd yn nyddiau'r hir gyfyngder; ond os bydd streic neu ymladdfa neu etholiad, fe ddaw'r Rhondda yn enwog yn Llundain rhag blaen. Ond y pethau a welir sy'n myned heibio; y pethau ni welir (gan y papurau) sydd yn aros. Paham na chlywwn ers ugain mlynedd am hanes diwydiannau eraill heblaw y pyllau glo-gwaith adeiladu,. neu esgidiau, a llawer diwydiant arall sydd yn heddychol ers blynyddoedd? Y drwg a wna dynion sydd yn amlwg, cleddir y da yn aml gyda'u llwch.

DIWYDIANT ADEILADU

Cofiaf yn 1916 ddechreuad anturiaeth ryfedd ym myd adeiladu, diwydiant a fu cyn y rhyfel yn enwog am anghymod. Yr oedd Crynwr o'r enw Malcolm Sparkes yn gyfarwyddwr mewn ffatri saeryddiaeth ac ar delerau hapus â'i weithwyr. Yn 1914 bygythiwyd gan y meistri, er mwyn rhoi terfyn ar streic yn Llundain, gloi allan yr holl weithwyr adeiladu drwy'r deyrnas, ond pasiwyd yr helynt rywsut pan dorrodd y Rhyfel Mawr allan. Erbyn 1916 yr oedd cynnen yn codi drachefn oherwydd prisiau bwyd a cheisiadau am gyflogau uwch. Ysgrifennodd Malcolm Sparkes at ysgrifennydd Undeb y Seiri yn gofidio am fod helynt o'r fath yn codi, tra oedd eu cymrodyr yn marw yn Ffrainc am swllt yn y dydd. Erfyniai am iddynt gyfarfod â'i gilydd fel meistri a gweithwyr i drafod yr undeb oedd rhyngddynt, yn hytrach na thrafod cwyn a cham yn wastadol. Gwahoddwyd ef i gyfarfod Pwyllgor yr Undeb, ac, wedi iddo egluro'i syniadau ymhellach, cafwyd trafodaeth rydd a chydymdeimladol. Yn y diwedd fe ddywedwyd pe delai'r- meistri i'r un tir, y buasai'n hawdd gael cymod, a phwyswyd ar Malcolm Sparkes i'w hargyhoeddi. Gwrthododd, gan ddweud mai hanfod heddwch oedd dechrau anturiaeth ymddiriedaeth y naill ochr yn y llall, a'i fod yn anhepgor i'r gwahoddiad ddod oddi wrthynt hwy. Yn y diwedd anfonwyd gan Undeb y Seiri at Undeb yr Adeiladwyr lythyr oedd