pwy mor ddyheig â'r hen navvy i ddeall natur coed a cherrig a chrefftwaith y ffyrdd a'r ffosydd? Teimlais yn aml, wrth weithio ochr-yn-ochr â hwy, mor ddiystyrllyd oedd gwŷr cyfforddus y cerbydau wrth ruthro heibio i ni a'n gadael dan gwmwl o lwch eu holwynion. Yn wir, dywedai Cocky, yr hen Ganger: "Diolch i Dduw nad ydynt yn poeri arnom." Eto dyma'r gwŷr mwyaf annibynnol a welais erioed; dywedent eu meddwl yn groyw ac yn rymus wrth fach a mawr, ac os byddai'r ffrwgwd yn mynd i'r pen, cymerent eu pac ac i ffwrdd â hwy ar hyd y ffordd fawr i geisio gwaith amgenach. Cyfaddefai Cocky: "Y navvy yw ei elyn ei hun; casglwn dipyn o bres a chelfi yn y tŷ, ac yna gwariwn ormod ar y ddiod; ac wedyn y ffordd fawr amdani!" Pan yn ymresymu â hwy am wario 15s. yn y dafarn ar ddiod, yr esgus oedd: "Wel,' 'does un man ond y dafarn i fechgyn y ffordd, ac os bydd un yn galw am rownd o ddiod, teimlwn na allwn lai na galw am rownd arall i dalu'n ôl, ac felly y byddwn wedi cael gormod. Ond y mae hyn i'w ddweud, yn y dafarn, 'Be' gymerwch chwi?' yw hi; ond yn y capel, 'Be' rowch chwi?'; a gwell gennyf fod yn feddwyn nag yn gybydd; ni fuaswn yn gybydd er neb, hyd yn oed y Gŵr sy'n byw i fyny'r grisiau."
Eglurais wrtho fod y Gŵr hwnnw yn grwydryn ei hun pan ar y ddaear.
"Felly y clywais," meddai, "yn mynd ar gefn mul ynte, ond nid wyf fawr o sgolor i chwi.".
Ond yr oeddynt yn hynod o gymwynasgar i'w gilydd ac yn barod i rannu eu tamaid olaf yn ôl angen y munud. Yr oedd defod y navvy's honour ganddynt; pan fyddai crwydryn yn dod am waith casglent swllt yr un iddo gael dechrau'n anrhydeddus yn eu plith nes cael ei gyflog. Cofiaf dorri twmpath o gerrig rhyw ddiwrnod a chael fy ngheryddu gan un o'm cydweithwyr am wneud gormod a difetha'r job; dywedais nad oeddwn yn fy lladd fy hun, a'i bod yn ddyletswydd i wneud diwrnod o waith teg.
"Ie," meddai, "ond peidiwch â bod yn hunanol; y mae'r hen dad yma (gan gyfeirio at hen ŵr musgrell a oedd yn gweithio ar fy nghyfer) yn methu torri cymaint â chwi, ac fe gaiff y sac os gwêl y Clerk of Works hynny."
Trodd yr hen ŵr ataf ei hun: "A wyddoch chwi faint sydd rhwng y gwir a'r gau-dwy fodfedd." Yn fy mhenbleth