eglurodd: "Y pellter rhwng y glust a'r llygaid. Y peth a welaf ddyn yn ei wneud a gredaf, nid y peth a glywaf. Dyma ni yn gosod y ffordd i lawr; ond nid ydym yn cerdded y ffordd; ac felly gyda'r personiaid a'r pregethwyr—gosod y ffordd i lawr y maent, ond nid ydynt yn ei cherdded mwy na ninnau."
Felly, o enau fforddolion y cefais gerydd, a chan y crwydriaid y cefais ymborth i gorff a meddwl a barodd i mi deimlo'n hynod o gynnes atynt. Yr oedd eu cymdeithas rywsut yn gynhesach na chymdeithas y Sosialwyr a'r Comiwnyddion pybyr a oedd yn gyd-garcharorion ac yn cynllunio a dadlau beunydd am ryw fyd o bell, ac yn dilorni'r byd wrth law, gan gyfrif y crwydriaid yn anwariaid. Llawer tro wrth glywed eu cŵyn am dra-arglwyddiaeth Mamon a'r "materialist interpretation of history," meiddiais ddweud fy mod yn teimlo fy mod yn ddyn rhydd.
"Nac ydych," meddent, "caethwas ydych i'r gyfundrefn; pe gwrthodech weithio, chwi aech yn ôl i garchar."
Ceisiais egluro'r hen ddihareb: "Gwell bod yn rhydd mewn carchar na bod yn gaeth mewn llys," ond yn ofer. Pwysodd y broblem dipyn ar fy meddwl, ac wedi ymneilltuo a myfyrio, deuthum yn ôl i'r babell a dywedais fy mod am ffarwelio â hwy yn y bore, er mwyn adfeddiannu fy "rhyddid cynhennid" a phregethu efengyl heddwch Crist. Cynhyrfwyd hwy'n fawr gan fy mhenderfyniad, a gwnaethant eu gorau i'm perswadio i beidio â rhedeg yn rhyfygus i ddannedd y ddeddf. Modd bynnag, ffarweliais â hwy drannoeth, ac â'r hen navvies geirwon, yn hynod o ddwys a thyner. Wedi cerdded chwe milltir at y prif wersyll, yn Llanwrda, synnasant fy ngweled; yr oedd si am fy ymadawiad eisoes wedi eu cyrraedd. Euthum i weled y pennaeth-hen Sergeant Major oedd yn swyddog dan y Swyddfa Gartref. Synnodd yntau fy ngweled, a dywedodd ei fod wedi anfon dyn i'r orsaf i'm gwylio. Eglurais wrtho fy mhenderfyniad, a dywedais na byddai'n deg i mi ymadael heb ffarwelio, ac egluro wrtho. Er fy mawr syndod, dywedodd, "Fy nyletswydd innau, mae'n debyg, yw eich atal a'ch dal, ond gadewch i'r Home Office wneud eu gwaith budr eu hunain." Yna estynnodd ei law a dywedodd: "Duw a'ch bendithio." Y noson honno nid oedd gennyf unlle i gysgu, nac arian, ac euthum at y Felin yn Llanwrda i ofyn am ganiatâd i gysgu