Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn yr ysgubor; ond nid oedd neb yn y tŷ ond y plant hoffus; arhosais gyda hwynt nes daeth eu rhieni i mewn. Eglurais fy neges, ond ni chawswn ganiatâd i'm cais nes cael swper gyda'r teulu; yna gwrthodasant yn bendant, gan egluro eu bod wedi paratoi gwely i mi yn y tŷ. Felly o dy i dŷ, ac o fan i fan, y cefais ymgeledd cyfamserol yn Sir Gaerfyrddin wrth siarad mewn pentrefydd a chapelau. Deuthum o'r diwedd i Burry Port, lle'r oedd pentref newydd ar gael ei adeiladu gan fy hen gwmni, y Welsh Town Planning Trust. Er fy syndod, cefais fod hen gydnabod hoffus, Ben Thomas, yn Clerk of Works, a mawr oedd croeso y Cymro caredig a'i wraig a'r plant. Wedi cael bwyd a holi am ei fyd, eglurodd Ben anawsterau ei swydd-fod y gwaith wedi sefyll am na wyddai rheolwr yr adeiladwr sut i drin y navvies Cymreig a oedd yn ymadael y naill ar ôl y llall. Euthum at y navvies yn y bore a chlywais ganddynt y gŵyn fod y Sais yn eu bygwth a'u cyfarth fel ci. Euthum at y rheolwr a dywedais. am fy mhrofiad fel navvy a bod ffordd i'w trin; ei esgus oedd fod y Clerk of Works yn cwyno am yr oediad yn y gwaith, a'r dynion yn chwarae cardiau ac yn cael eu sacio; ond toc, cyfaddefai fod y dull o weithredu-pawb yn erlid ei gilydd wedi andwyo hapusrwydd ei fywyd, a phe bai modd newid y drefn y buasai'n fodlon ar hanner ei gyflog; ond, yn y diwedd, dywedodd nad oedd obaith am hyn am fod ei feistr yntau yn un o "wŷr caletaf y Midlands." Cynigiais fyned gydag ef yn y bore i ofyn caniatâd y Meistr i anturiaeth newydd.

Wedi cyrraedd Melton Mowbray, hawdd oedd credu ei syniad am ei feistr, ond wedi i mi ddweud yr hanes wrtho, ac egluro fel yr oedd pob swyddog yn ceisio cadw trefn wrth fygwth eraill, ac nad oedd hynny'n fusnes da nac yn Gristnogaeth dda, atebodd y meistr: "Rwy'n hollol gydweled â chwi. Deugain mlynedd yn ôl, bûm ar fin myned i'r weinidogaeth, ond gwelais y byddai hynny'n golygu'r Bregeth ar y Mynydd, ac ni allwn ei hwynebu. Felly euthum i fusnes, ond camgymeriad mawr ydoedd. Os mynnwch chwi weithredu'r cynllun a eglurwch, gwnaf bopeth i'w hyrwyddo; cymeraf unrhyw gomisiwn a fernwch chwi yn deg, yn lle elw ar y gwaith, ac yn wir buaswn yn barod i gymryd rhan yn y gwaith â'm dwylo fy hun."

Fe'm synnwyd yn ddirfawr, a neb yn fwy felly na'r rheolwr.