Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Prysurais yn ôl i Gymru; cefais gan arch-adeiladwyr y cwmni, a chan y Cyrnol David Davies, y cadeirydd, y Clerk of Works, a'r gweithwyr eu hunain, ganiatâd i fentro'r ffordd newydd a eglurais wrthynt, a chynigiais weithio gyda hwynt fel navvy fy hunan. Ond ni chaniatawyd hyn gan Gyfarwyddwyr y Cwmni; dywedodd yr is-gadeirydd gweithredol nad oedd yn ystyried y fath anturiaeth yn "ymarferol"—a llywydd enwad crefyddol ydoedd.

Felly euthum ymlaen o fan i fan i geisio tir agored arall i'm cenhadaeth nes cael fy ngharcharu drachefn.

Yn 1923 fe'm gwahoddwyd i Gynhadledd Swanwick gan y Frawdoliaeth Wesleaidd i arwain cyfres o astudiaethau ar anturiaeth yr Efengyl ym mywyd addysg a diwydiant. Cyhoeddais lyfryn ar faes yr astudiaeth dan yr enw Direct Action, yn awgrymu camau personol o'r ddelfryd i'r weithred. Wrth i mi sôn am enghreifftiau o driniaeth rasol o'r bywyd is-ddynol—dofi colomenod, dysgu cŵn, iwsio ceffylau—daeth hen amaethwr crefyddol ataf; ofnais fy mod wedi ei dramgwyddo wrth ddod â'r cŵn i'r Seiat; ond i'r gwrthwyneb, dymunai ddiolch o galon am hynny, a dywedodd: "Y mae gennyf ddau gi annwyl yn y farm acw, a diolchaf i'm Tad Nefol am y fraint a gefais o'u trosglwyddo o deyrnas y tywyllwch i deyrnas ei annwyl Fab." Cyfrifasid y fath sylw yn anystyriol gan lawer un, ond nid oedd y syniad am gysegredigrwydd bywyd yr anifail yn ddieithr i'n tadau a ddarllenodd "Cyfatebiaeth Rhwng Natur a Chrefydd," gan yr enwog Esgob Butler. Yn wir, yn ôl esboniad Syr G. Adam Smith, athrawiaeth y ddeddf a'r proffwydi ydoedd swydd offeiriadol dyn tuag at y creaduriaid.

Gŵr arall a ddaeth ataf wedi i mi sôn am ddiwydiant oedd un a fu yng ngharchar fel gwrthwynebwr cydwybodol. Dywedodd beth o'i brofiad a'i hanes wrthyf ac am ei anturiaeth yn ceisio brawdoliaeth yn ei fusnes. Pan y'i cafodd ei hun yn y gell wedi ei wisgo yn nillad confict torrodd ei galon bron, a theimlai na allai byth ddangos ei wyneb yn Birmingham drachefn; ond yn y gwaelod oll cyffyrddodd â'r graig dragwyddol, a chysegrodd ei fywyd oll i ofal Duw. Wedi ei ollwng yn rhydd, gwahoddodd y gwŷr a'i gwasanaethai mewn tair o siopau i swper, ac wedyn eglurodd wrthynt ei brofiad a'i benderfyniad i geisio gwir frawdoliaeth rhyngddynt, a'i fod yn barod i dderbyn eu barn am