beth a fyddai'n deg rhyngddynt. Y noson honno penderfynwyd y cyflog yn ôl safon yr Undeb, ac i'r elw gael ei rannu dair rhan o bump i'r dynion a dwy ran o bump iddo ei hun. Canlyniad y cynllun y flwyddyn ganlynol oedd fod 50p. o'r elw yn dod i bob gweithiwr yn ychwanegol i'w gyflog. Y flwyddyn nesaf yr oedd anhawsterau mawr mewn masnach trwy'r wlad; cafodd lythyr o'r banc yn pwyso arno i dynnu ei ddyled i lawr. Gwelodd un o'r gweithwyr fod golwg bryderus arno, a holodd am yr achos; dangoswyd y llythyr iddo. Y noson honno daeth y gweithiwr yn ôl gyda phapur, wedi arwyddo gan y dynion oll, yn cynnig tynnu eu cyflogau i lawr, o 5s. yn yr wythnos hyd at 2p. yn yr wythnos mewn un achos. Syfrdanwyd ef gan weithred rasol a hollol annisgwyl o'r fath. Gostyngwyd felly ddyled y banc, a dechreuwyd cystadleuaeth bellach mewn gras a brawdoliaeth rhwng meistr a gwas.
Yn ystod y blynyddoedd canlynol bûm mewn cysylltiad aml â'r cwmni rhyfedd hwn, ac yn ŵr gwadd i'w cynadleddau. Erbyn hyn, y mae gan y cwmni yn agos i gant o siopau, cyflogau anghyffredin, pensiwn am 60 mlwydd oed, gwyliau â thâl, amgylchiadau cysurus a'r cydweithrediad rhyfeddaf a welais erioed. Sicrhawyd fi wrth groesholi'r pwyllgor am "hanes yr achos" nad cyfundrefn yw'r esboniad, ond perthynas frawdol a chydweithredol. Y meistr a fu'n gyntaf yn cynnig a chymell codiad cyflogau, a'r gweithwyr yn unfryd yn gwrthod codiad, a hynny er mwyn amcanion amgenach. Cyfranasant 9p. yn yr wythnos yn nyddiau'r dirwasgiad yn y De, a 10p. yn wythnosol at dlodion eu dinas eu hunain. Cyfranasant hefyd filoedd o bunnau at ysbytai, i wella'r tai slymaidd, ac at achosion da eraill. Eglurasant i mi fod "y meistr yn feistr am nad oedd yn feistr," ac mai o ras, ac nid o raid, y teimlent eu dyletswydd. Cŵyn fwyaf y meistr oedd eu bod yn gweithio gormod; dygasant feichiau ei gilydd pan fyddai gormod o waith mewn un siop, heb gŵyn na gwobr. Deallais, wedi eu croesholi'n fanwl, mai llu o weithredoedd grasol a phersonol a oedd wedi gweu y rheffynnau dynol a'r rhwymau cariad rhyngddynt. Cyfeiriant at ffordd yr Efengyl fel ffaith o brofiad mewn busnes, a chyda throseddwyr a ddug arian, neu a ddiogasant, yr oedd gras yn gorfoleddu yn erbyn deddf a'r troseddwr yn aml yn cael ei le yn ôl a'i drin yn frawdol. Etholwyd y meistr erbyn hyn