Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn Master Cordwainer Prydain, sef llywydd i'r guild hynafol sydd yn perthyn i grefft y cryddion o'r Oesoedd Canol.

Ni allaf beidio a chyfaddef fy nyled bersonol i'r cwmni rhyfedd hwn. Daeth fy nghynhaliaeth bellach ers deuddeng mlynedd oddi wrth gyfeillion dienw na fynasent i mi wybod eu henwau; ond yn ddiweddar iawn, ac yn ddamweiniol, cefais wybod fod gan y cryddion grasol hyn law yn y cynllun er mwyn fy rhyddhau i waith y Cymod, a wnaeth y fath drefn yn eu hanes a'u busnes eu hunain. Disgwyliaf y cyhoeddir hanes yr anturiaeth cyn hir i egluro Cristnogaeth ymarferol a gweriniaeth ar waith mewn diwydiant.

CENHADAETH YNG NGHERNYW

Fe'm gwahoddwyd i gyfarfod hynod yng Nghernyw yn Eglwys Gadeiriol Truro. Yr oedd yr Esgob yn llywyddu ar gyfarfod yn cynrychioli Eglwyswyr ac Anghydffurfwyr, tirfeddiannwr a mwynwyr, i ystyried cenhadaeth yr Eglwys yn ymrafaelion y wlad: Dywedodd yr Esgob fod y byd yn rhanedig am fod yr Eglwys yn rhanedig ac yn methu dangos ffordd ac esiampl gwell. Teimlodd eu bod oll mewn angen am wir edifeirwch am eu hymraniadau a'u methiant i fod yn dangnefeddwyr tu allan i'w drysau. Wedi'r drafodaeth, cyfarfyddai nifer o'r rhai a oedd dan argyhoeddiad yn y mater, yn St. Hilary, Marazion, hen Eglwys y gŵr hynod hwnnw, y Tad Bernard Walke. Yn y gwasanaeth dechreuol, gwelsom holl ardderchowgrwydd yr Offeren, a chlywsom arogl yr arogldarth, a sain y gloch sanctaidd. Sibrydodd gweinidog Presbyteraidd wrthyf, "Camgymeriad mawr a thramgwydd i amryw ohonom fydd hyn.'

Teimlai'r offeiriad yn amlwg rywbeth o'r un pryder, oherwydd daeth, wedi'r gwasanaeth, at risiau'r Gangel yn ei wisgoedd llaes, a dweud wrthym, "Teimlaf y gall rhai ohonoch deimlo tramgwydd oherwydd ffurf o wasanaeth sydd yn ymddangos efallai yn ofergoeledd i chwi. Ond nid yw'n ddigon i ni gyfrannu yn unig yn y pethau sydd gennym yn gytun, megis cyd-adrodd Gweddi'r Arglwydd, ond mentro, fel brodyr yng Nghrist, ddatgan y rhan o'r profiad a'r weledigaeth a fu i ni yn wir 'foddion gras,' ac y mae'r Offeren wedi bod yn foddion gras anhraethol i mi; ond nid yr unig foddion yw; y mae'r Crynwyr yma yn cael moddion gras wrth wrando a gweddio mewn distawrwydd, a'r