Methodistiaid yn eu Seiat Brofiad. Felly, os eiddo Crist ydym, y mae'r holl foddion hyn yn eiddo i ni." Yna, â'r arogldarth yn yr awyr, dilynwyd y gwasanaeth gan ddistaw-rwydd dwys, ac wedyn gan gyffes y naill a'r llall o'r pethau a berthynai i heddwch enaid a bywyd; ac yr oedd yr offeiriad yn dweud ei brofiad mor naturiol â hen Fethodist.
Y diwrnod canlynol aethom allan yn ddau a thri i bentrefi Cernyw i genhadu yn yr awyr agored. Testun y genhadaeth oedd undeb yr Eglwys fel moddion i uno'r byd; natur Eglwys ydoedd cymdeithas y rhai oedd yn barod i roddi popeth i fyny ond eu Harglwydd a'u cyd-ddyn. Cofiaf, ym mhentref St. Just, ym mhegwn eithaf Cernyw, annerch, gyda'r Tad Bernard, rai ugeiniau o bysgotwyr, mwynwyr a phentrefwyr. Dywedai y teimlai y gallasent edrych arno fel dyn od, ond credai ped adnabuasent ef, yr hoffent ef, a'i fod yn sicr ei fod yn eu hoffi hwy, am fod yr Iesu yn eu caru hwy ac yntau. Ffurfiwyd Brawdoliaeth y Bwrdd Cyffredin gan gylch ohonynt, yn Grynwyr ac yn Uchel Eglwyswyr ac eraill, i rannu, nid yn unig y pethau a berthynai i heddwch mewn profiad, ond hefyd y pethau a berthynai i'r cysur beunydd- iol, ac angen y naill a'r llall. Yr oedd un ohonynt, Gerard Collier, yn fab i Arglwydd Monkswell ac yn byw mewn bwthyn cyffredin, a'i fachgennyn, a oedd yn aer i'r arglwyddiaeth, yn rhedeg yn droednoeth gyda phlant y pentref. Rhyfedd ydoedd clywed ym mhellteroedd Cernyw yr un pwyslais ag a roddasai Williams Pantycelyn yn "Nrws y Seiat Brofiad" ar ddyletswydd y saint i rannu beichiau ei gilydd, ac felly gyflawni cyfraith Crist. Ond yr oedd syniad o'r fath eisoes yn nhraddodiad Geltaidd yr Eglwys yng Nghernyw. Dangoswyd i mi hen ddarlun yn eglwys St. Just yn darlunio'r croeshoeliad, a gwaed Crist yn llifo at law'r aradrwr tra oedd yn hau'r had. Daliai'r Tad Bernard mai ystyr gyntefig yr Offeren ydoedd arwyddo rhaniad y pethau tymhorol, yn fwyd ac yn ddiod, yn ôl arfer comiwnyddiaeth yr Eglwys Fore, yn ysbryd a haelioni Crist. Pan yn St. Ives euthum i weled yr offeiriad Pabaidd, ac wedi i mi egluro iddo amcan y genhadaeth, dywedai na allai ymuno oherwydd na chydnabyddai'r un eglwys ond yr Eglwys Gatholig. Gofynnais iddo onid oedd sectyddiaeth yr Eglwys honno yn ei flino ef, wrth weled yn y rhyfel filwr Catholig o Ffrainc yn lladd ei gyd-Gatholig yn yr Almaen, a'r ddau yn ymladd dan fendith eu Hesgobion? Cyfaddefai ei fod yn gwestiwn dyrys, ond