Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ychwr (fel y Cadfridog von Deimlich), ac a oedd yn awr yn amaethwr. Dywedodd imi beth o'i hanes a'i brofiad, a'r diraddiad a fu arno gan y swyddogion milwrol; ond yr oedd yntau wedi cerdded "ffordd Damascus." Llwyddodd amcan y gwragedd heddychlon trwy sefydlu Ysgol Werin ar y goror, fel man-cyfarfod a lle trafodaeth i'r ddwy genedl; a phasiwyd mesur gan y Llywodraeth i drefnu os byddai ugain Almaenwr yn dymuno cael ysgolfeistr neu weinidog o'u cenedl eu hunain ac yn siarad eu hiaith eu hunain i'w plant, y cawsent hynny ar draul y wlad. Canlyniad cyntaf polisi o'r fath ydoedd "chwalu canolfur y gwahaniaeth" wrth chwalu cwyn y lleiafrif, mewn modd na welwyd ei hafal yn Ewrop. Canlyniad diweddarach y polisi ydoedd y driniaeth arbennig a gafodd Denmarc gan fyddinoedd yr Almaen yn y rhyfel presennol, a adawodd iddynt eu brenin a'u Senedd a rhyddid barn. Yr oedd Denmarc eisoes wedi diarfogi cyn y rhyfel.

Y SENEDD

Yn Hydref 1923 cefais wahoddiad i sefyll dros Brifysgol Cymru. Ni allwn rwymo fy nghydwybod wrth unrhyw blaid, ac felly sefais fel Heddychwr Cristnogol a cheisiais egluro, mewn datganiad lled faith, i'r etholwyr beth a olygai'r egwyddorion hyn i mi ar gyfer gwleidyddiaeth, diwydiant, amaethyddiaeth ac addysg fy ngwlad. Gwelais yn yr etholiad gyfle i hau had heddwch, ac, mewn cyfarfodydd lawer o raddedigion y Brifysgol ar hyd a lled Cymru, cefais gyfle i erfyn arnynt feddwl allan egwyddorion sylfaenol y Genhadaeth Hedd, a'u gweithredu yn eu cylchoedd eu hunain, ac yn arbennig yn ysgolion y wlad. Nid oedd sawr ymbleidiaeth nac ymgecraeth yn y cyfarfodydd, ond yn hytrach seiat brofiad; diweddodd amryw o'r cyfarfodydd mewn gweddi. Er fy mawr syndod, fe'm hetholwyd i'r Senedd. Yno fe'm croesawyd yn gynnes gan gynrychiolydd y Prif Ysgolion Unedig Seisnig, Syr Martin Conway, a oedd yn enwog fel llenor a dringwr mynyddoedd yr Alpau a'r Andes, a hefyd yn grefyddwr. Eglurais iddo fy syniad o geisio gan grŵp o'r rhai a roesai eu crefydd o flaen eu plaid, drafod cwestiynau . a cheisio cymod Crist a'i gyflwyno i eraill. Cofiais am grŵp o'r fath a gyfarfu yn y Senedd ar adeg helynt Iwerddon. Datganodd ef gryn ddiddordeb, a chof af iddo ddweud: "Os