Cymod yn y byd hyd oni bo i'r eglwysi edifarhau o'r culni sectol, a deffro sêl dros gyfuno holl fywyd dynion yng Nghrist.
Pwysicach nag unrhyw "benderfyniadau cyffredinol" pen-agored ydoedd y penderfyniad a wnaethpwyd, gyda chymorth Crist, i sefyll dros heddwch yn y gelyniaethau oedd yn rhannu a rhwygo Ewrop. Cyn i ni wasgaru i'n gwledydd ein hunain o Ynys Tangnefedd Denmarc, gwnaethom gyd-adduned ddwys i geisio sefyll, yng nghanol llifogydd gelyniaeth gwledydd, torfeydd, pleidiau a sectau, dros Weinidogaeth y Cymod yng Nghrist gan gofio'r gair difrifol:
"Cymerwch atoch holl arfogaeth Crist fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg, ac wedi gwneuthur pob peth sefyll . . . oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd."
Duw a ŵyr gost yr adduned a'r safiad hwnnw i lawer un a oedd yno. Alltud hyd heddiw yn y Swistir yw'r Dr. Siegmund Schultze, o'r amser y cododd Hitler yn Unben yr Almaen. Carcharwyd cyn y rhyfel dros ddeuddeg cant o weinidogion yr Almaen am ddal at eu cyffes o Grist. Safodd yr Arglwyddes Mathilda Wrede dros gymod â'r Bolshefiaid yn y chwyldro a fu yn Ffinland, a hefyd dros drugaredd i'r mynaich Rwsiaidd a erlidiwyd yn y wlad honno. Yn Ffrainc carcharwyd y Pasteur Henri Roser am wrthod gwasanaeth milwrol. Costiodd ymddiswyddiad o arweiniad y Blaid Lafur i George Lansbury am sefyll yn erbyn rhyfel a'r polisi a arweiniodd ato.
Fe'm gwahoddwyd oddi yno i gynhadledd hynod yn Ne Denmarc yn nhiriogaeth Schleswig Holstein. Galwyd y gynhadledd hon gan wragedd Denmarc yn y mannau a feddiannwyd o'r Almaen gan Ddenmarc wedi'r rhyfel. Ceisiwyd gan y Daniaid wneuthur y rhaniad mor deg ag oedd yn bosibl drwy gymryd pleidlais fanwl o'r boblogaeth cyn tynnu'r llinnell-derfyn rhwng y ddwy wlad. Er hynny, yr oedd "pocedau" o Almaenwyr yn aros yn Nenmarc, a Daniaid dros y goror yn yr Almaen. Amcan y gynhadledd ydoedd ceisio tynnu unrhyw chwerwedd o weinyddiad y ddeddf trwy gydymdeimlad a chyd-ddealltwriaeth a chyfiawnder gwirfoddol. Rhyfedd ydoedd cwrdd, yn hen Gastell y Dug o Augustenborg, â gwragedd diwylliedig a oedd yn Aelodau Seneddol yn Nenmarc, ac yn eu plith hen Gadfridog yr Almaen, y Baron von Schoenaich, oedd wedi troi'n hedd-