Cofiaf sciat neilltuol o dros ddeugain o offeiriad Pabaidd, ac o weinidogion Lutheraidd ac enwadau Protestannaidd eraill." Ceisiasom drwy hyd un bore dynnu allan ddatganiad o'n cyd-weledigaeth a'n cydymdeimlad ysbrydol; ond yr oedd pob enw wedi ei lygru gan ryw au-gysylltiadau. Nid oedd "Sosialwr Cristnogol" yn Awstria yn golygu dim ond plaid wrth-Iddewig; Bolsheifiaeth ydoedd cysylltiadau'r gair cydwladol"; Marxiaeth oedd cysylltiadau'r gair "Gweriniaeth" yn yr Almaen; Pabyddiaeth oedd ystyr "Catholigiaeth" yn Belfast ac yng Nghymru. Felly methasom yn llwyr a chyrraedd unrhyw formula a chredo. Yn y prynhawn aethom ati yn wahanol, a dyma'r datganiad:
"Cyfarfuasom, yn weinidogion a chlerigwyr Cristnogol o wahanol wledydd ac enwadau ac ysgolion meddwl, yng Nghynhadledd Gydwladol Brawdoliaeth y Cymod, a daethom o hyd i'n gilydd. Rhoddwyd i ni y profiad byw fel y gall cwestiynau lawer, dyrys a chymhleth, o fywyd crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol, gael eu trafod mewn modd agored a rhydd, ac eto yn hollol frawdol. Argyhoeddwyd ni fod rhyfel a chasineb mewn bywyd gwleidyddol a chymdeithasol yn ddrwg, yn enwedig rhwng Cristnogion, a'i bod yn ddyletswydd gysegredig i'r gweinidogion a'r clerigwyr oll weithio â'u holl adnoddau modd y byddo egwyddorion yr Efengyl yn safon yn y cwestiynau hyn oll. Teimlasom a phrofasom oddi tan ein holl wahaniaethau enwad a gwlad ein dwfn undeb cyffredin yng Nghrist. Y profiad o'r posibilrwydd hwn sydd yn ein calonogi i obaith anorchfygol lledaeniad dealltwriaeth o'r fath rhwng Cristnogion o wahanol. genhedloedd a chyfundebau. Gwna hyn hi'n ddyletswydd agos atom o'r dydd hwn ymlaen i weithio i'r amcan yma a thaer erfyn ar ein cyd-weinidogion gyd-weithio yn y ddyletswydd wir Gristnogol o baratoi'r ffordd i ddyfodiad Teyrnas Duw ar y ddaear."
Cofiaf y Dr. Schultze, wrth i mi ddweud wrtho am fy siom pan fethasom gael formula, wedi inni gael cyd-welediad a chydymdeimlad mor llwyr: "Wel, llwyddasom yn well na'r Esgobion yng Nghyngor Nicea. Hwy a gawsant y formula ond cwerylasant fel diawliaid." Ac nid yn Nicea yn unig y bu'r "llythyren yn lladd," ond yng Nghymru hefyd. Diolch fod Cyngor Ffydd a Threfn yr Eglwysi yn 1942 wedi agor ei ddrysau i rai, fel y Crynwyr a'r Undodwyr, na allent fodloni ar ddatgan eu ffydd mewn formula o eiriau ystrydebol a lyncir, fel penderfyniadau Sasiwn yn aml, heb wir ystyried eu cyfrifoldeb. Cefais, yn y Gynhadledd hynod hon yn Nenmarc ryw gip-olwg ar ystyr a phosibilrwydd eglwys Crist yn ei holl amrywiaeth gatholig, "heb na Groegwr nac Iddew, caeth na rhydd," ond "Crist i bawb, ym mhawb a thros bawb." Nid yw'n debyg y cyhoeddir Gweinidogaeth y