Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwrs, na ddylai egwyddorion y Testament Newydd gael dylanwad dwfn ar weithrediadau un wlad tuag at y llall. Ond nid yw'r cymhwysiad yn fater syml; am hynny, nid wyf yn teimlo y gellwch drin gwlad fel uned y gellir cymhwyso ati holl orchmynion yr Efengyl a draethwyd gynt with unigolion. Modd bynnag, credaf fod Cynghrair y Cenhedloedd yn gam i'r iawn gyfeiriad er iddo ofyn gofal mawr wrth roddi pwysau arno rhag i'r offeryn dorri dan ein dwylo. Nid oes raid i mi ddweud am ddylanwad a theimlad neges Esgobion Sweden. Dymunaf fedru gweled rhyw arweiniad glir ar y mater."

CYNHADLEDD HEDDWCH

Y flwyddyn honno cefais wahoddiad i gynhadledd heddwch o 200 o gynrychiolwyr eglwysi, dosbarthiadau a chenhedloedd gredodd fod allweddau heddwch gan Grist a'i Eglwys. Rhyfedd oedd gweled Almaenwyr a Ffrancwyr, offeiriad Pabaidd a gweinidogion Lutheraidd, Eglwyswyr a Chrynwyr, yn eu pryder a'u cyffes a'u proffes ynghyd, yn chwalu canolfur y gwahaniaeth. Er yr holl straen a'r dioddef gan gam y gormeswyr, medrwyd cyrraedd cyfamod gan y Ffrancwyr oedd yno ag Almaenwyr o'r Ruhr. Cofiaf gadeirydd y gweithwyr yng ngweithfeydd enwog Krupps, Herr Dabringhaus, yn adrodd fel y bu'n erfyn ar y gweithwyr i beidio â thalu drwg am ddrwg i'r milwyr Ffrengig, ond gwneud pob cymwynas a cheisio eu hargyhoeddi hefyd o'r cam a wnaethant i werin yr Almaen ddiarfau. Gofynnais iddo a gyfarfu â'r Crynwyr. "A," meddai, "dyna bobl sanctaidd," a deallais o ba le y daeth ateb rhyfedd yr Almaenwr hwn i'r hen gwestiwn, "Pa beth a wnaech pe deuai?" Nid Hitler oedd bwgan y dydd hwnnw, ond Poincare, Llywydd Ffrainc. Amdano y dywedodd Lloyd George wrthyf, "Dyn bychan deddfol ac yn llawn casineb." Am ei bolisi fe ddywedodd hefyd:

"Rhaid felly ystyried polisi Ffrainc a'i Chynghreiriaid ar ôl y rhyfel fel un o'r prif achosion oedd yn gyfrifol yn uniongyrchol am fethiant yr Almaen i dalu'r iawndal. Rhaid oedd iddynt ddewis rhwng polisi o gyfeill- garwch a chynorthwyo'r Almaen i adferiad economaidd at safon a'i gallu- ogai i dalu; neu ynteu bolisi o wanhau a difrodi, er diogelu dyfodol Ffrainc. Dan ddylanwad M. Poincare gwnaethant yr ail, mewn gobaith am fedi holl elw'r cyntaf."

Cafwyd yng Nghynhadledd Denmarc unfrydedd rhyfedd ar bolisi gwleidyddol a chymdeithasol a weddai i Gristnogion; yr anhawster mwyaf ydoedd cael eglwysi cred at ei gilydd.