genedl ac i orfodi cyfaddefiad o'r euogrwydd hwnnw ag arf newyn, ac yr oedd yn anghyfiawn anwybyddu'r addewid am well termau i Almaen ddemocrataidd. Y mae'r Cytundeb yn ddi-rym yn foesol am fod llawer o'i amodau, sy'n anghyfiawn ynddynt eu hunain, yn bradychu'r telerau y cytunodd y Galluoedd Canol arnynt i orffen y rhyfel.
"Cyfaddefwn i'n gwlad ni ein hunain honni hawliau a sicrhau manteision yn groes i delerau'r Cadoediad, a chydnabyddwn fod ein galw am ddiwygiad yn golygu o angenrheidrwydd barodrwydd i ymwrthod ag enillion lle y gofyn cyfiawnder am ymwadu. Credwn, fel y daw'r ffeithiau'n adnabyddus, y teimla gwŷr o anrhydedd rwymedigaeth i ymgeisio o'r newydd am waredu Ewrop.
"I gyrraedd yr amcan hwn, galwn am fath newydd o gynhadledd i ddiwygio'r Cytundeb. Gan gynrychioli anghenion cyffredin dynion cyffredin yn hytrach nag amcanion politicaidd gwladweinwyr, a chan fod ar dân â'r awydd i weithio'n ffyddlon er mwyn lles cyffredinol, rhaid i'w haelodau gydweithredu fel gwŷr cydradd, heb eu llesteirio gan amodau'r Cytundeb ac yn rhydd o ysbryd tra-arglwyddiaeth.
"Yn wyneb trasiedi'r anobaith sy'n dyfnhau'n barhaus, yr ydym yn argyhoeddedig o'r angen am ymgais fuan i drefnu Cynhadledd o'r fath yn ddioed. Fe ofyn hyn am gydweithrediad cylchoedd eang o eneidiau taer yn benderfynol na ollyngant afael nes lledaenu'r fath ysbryd ewyllys da a'i gwna'n bosibl i adael o'r neilltu ymrafael a chwerwder yr amser presennol a dwyn i fod gytundeb wedi ei sylfaenu ar gyfiawnder a gwirionedd. "Argyhoeddwyd ni'n fwy nag erioed gan flynyddoedd rhyfel a'i ganlyniadau mai, yn yr amgylchiadau anhawsaf posibl, y galluoedd a all gyfodi cymdeithas dyn i dir cymod a bywyd newydd yw'r ymdrechion ymgyflwynedig hynny a wneir yn ysbryd Crist."
Anfonais beth o'm profiad ar y Cyfandir ynghyd ag apêl Esgobion Sweden at Arglwydd Salisbury, fy marnwr gynt, a llywydd y Blaid Geidwadol yn awr. Y mae ei ateb yn awgrymu'r anawsterau a deimlir gan lawer enaid dwys yn hualau teyrnasoedd y byd hwn:
"Ofnaf i mi gadw eich llythyr dros amser heb ei gydnabod, ac ofnaf nad oes gennyf esgus ond un annheilwng braidd, sef cilio rhag wynebu'r math ar gwestiynau a ofynasoch. Ond, mewn gwirionedd, gall unrhyw ddyn gael ei ddigalonni gan y pellter sydd rhwng polisi cyd-genedlaethol ag ysbryd y Testament Newydd. Heblaw hynny, hyd yn oed i sant, nid yw'r anhawster moesol yn syml. Rhwng unigolion, er ein bod yn cael anawsterau mawrion wrth ddilyn rheol yr Efengyl, eto nid oes gwestiwn o'u cymhwyster at berthynas dynion. Ond pan ddelech i ddelio â chymdeithasau dynol nid oes orchymyn sicr. Ni chyfeiria y Testament Newydd yn uniongyrchol at berthynas cymdeithasau. Cymhellir cariad, hunan- aberth, a hyd yn oed maddeuant, at berthynas dyn a'i gymdogion, ond pan yn ymwneud â chymdeithasau, yna y mae gan ddyn berthynas ddeublyg. Os yw dinasyddion gwlad arall yn gymdogion iddo yn ystyr yr Efengyl, felly hefyd y mae ei gydwladwyr. Ac, yn wir, mewn rhai cyfeiriadau y mae ganddynt alwad gryfach arno na'r lleill, a phan fo'n delio â buddiannau ei gydwladwyr ni all un aberthu yn yr un modd ag y gelwir arno i aberthu ei fuddiannau ei hun. Nid wyf yn golygu o gwbl, wrth