Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eisoes traddodwyd i ni wario'n anferth ar baratoadau newydd am arfau erchyll môr ac awyr, er nad oes yn awr gyd-ymgeiswyr mewn arfogaethau -ond Ffrainc, Siapan a'r Unol Daleithiau-ein Cynghreiriaid ddoe.

"Amgacaf ddatganiadau gan Gymdeithas y Cyfeillion. Y mae cu cywirdeb a'u cysondeb Cristnogol a'u gweithredoedd trugarog yn nioddefaint Ewrop heddiw yn haeddu sylw. Erfyniaf eich sylw difrifol i'w hapêl.

"Onid oes angen taer yn ein cynadleddau crefyddol am alwad i edifeir- wch cenedlaethol a phersonol, ac am gyfnewidiad calon a ffordd? Onid oes angen i weinidogion a blaenoriaid dorri'r distawrwydd am gyfrifoldeb ymddygiad y Cristion ym materion y genedl rhag i'n pobl gael eu difetha heb weledigaeth gan y farn gyfiawn ryw ddydd, sef cael ein barnu fel y barnasom ac y condemniasom ein gelynion? Pa fodd y gwneir iawn am y dioddefaint a achoswyd gan ein pechod a'n distawrwydd?

"Am fod fy nghalon yn drom gan y gwae a'r anobaith a welais yn ystod mwy nag un ymweliad â'r Almaen, meiddiaf apelio atoch, fel un sydd mewn sefyllfa o gyfrifoldeb a rhagorfraint arbennig, i geisio deffro ein heglwysi a'n pobl i edifeirwch am ein pechodau ac i faddeugarwch i'n gelynion; yn y pethau hyn y mae'r unig obaith am gymod â Duw ac â dyn, ac am ddyfodiad Teyrnas Dduw ar y ddaear. Onid trwy'r porth cyfyng ac isel hwn y gellir disgwyl gwir ddiwygiad crefyddol, a heddwch ar y ddaear, ac ewyllys da rhwng dynion?"

APÊL CYMDEITHAS Y CYFEILLION

Felly nid oedd dim i'w wneud ond troi drachefn, fel yn nyddiau'r carchar, at Gymdeithas y Cyfeillion am gefnogaeth mewn gair a gweithred i'r Genhadaeth Hedd a an- wybyddwyd gan eglwysi eraill. Yr oedd y gymdeithas fechan hon wedi codi 1,500,000p. a chynnal dwy fil o weithwyr trugaredd, ar hyd a lled Ewrop newynog. Ac yr oedd gair eu tystiolaeth ar y pryd mor groyw â'u gweithredoedd. Dyma eu tystiolaeth i'r byd yn 1923:

"Fe ymdeimla Cymdeithas y Cyfeillion, fel cymdeithas grefyddol a ddygwyd i berthynas ddynol agos a phobl yn dioddef yn ein gwlad ni a gwledydd eraill, yn ystod y rhyfel ac ar ei ôl, yn orchfygwyr ac yn orchfygedig, â'r rheidrwydd o ddatgan ei barn ar goedd am gyflwr alacthus Ewrop ar hyn o bryd.

"Y mae'r byd yn dal i ymbalfalu am ffordd heddwch. Methodd Cytundeb Versailles ddwyn na heddwch na diogelwch i Ffrainc a'r byd. Y mae ei orfodi yn hoelio militaraieth yn sicrach ar Ewrop, yn distrywio'r awydd am heddwch ac yn dyfnhau ysbryd dial. Yn yr un modd methodd pob Cynhadledd a gynullwyd dan y dylanwad hwn.

"Condemniwyd Cytundeb Versailles ar dir cyllidol, economaidd a pholiticaidd. Fe'n beichir ni gan mwyaf, sut bynnag, gan ei anfoesoldeb hanfodol. Dylasai ei gynllunwyr ystyried yn gyntaf sut i liniaru dioddefaint cyffredin y bobloedd yn hytrach nag ychwanegu at allu y Gwladwriaethau buddugoliaethus. Yr oedd yn anghyfiawn gau allan y gorchfygedig o'r Gynhadledd Heddwch, yn anghyfiawn i fwrw euogrwydd ar un