Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i gael gair â bachgen ar ddesg arall. Gofynnodd yr athro a fuasent yn hoffi canu i mi; "Anthem Johnny," ebe un o'r genethod. Eglurodd yr athro mai Johnny oedd wedi ei chyfansoddi. Dyfeisiwyd ganddo chwaraeon i fechgyn a genethod ynghyd, modd y gallai cyflymder y genethod gytbwyso cryfder y bechgyn. Wedi myned i'w dŷ am ginio, ac aros hanner awr wedi'r amser i'r ysgol ail-ddechrau, cefais y plant yn yr ysgol yn gweithio'n siriol ac wedi tynnu a lliwio darluniau o'r pentref yn gelfydd ddigon. Dywedodd yr athro lawer stori wrthyf am y naill a'r llall o'r plant, ac am ei ymdrech i dynnu allan eu doniau neilltuol o ryw gaethwasiaeth meddwl, a oedd wedi eu meddiannu hwynt o'r blaen. Dywedodd am un bachgen dwl na fedrai ei ddiddori mewn dim na'i ysgogi i unrhyw uchafiaeth, nes ei osod am fis cyfan i drin ei ardd. Gwnaeth y bachgen orchest o'r gwaith, nes tynnu edmygedd y plant eraill. Ac o hynny allan, deffrodd ei ddiddordeb mewn pynciau eraill yr ysgol. Pan gyfarfu'r athro â damwain, anfonodd am ddau o'r bechgyn at ei wely a gofynnodd eu barn. Cynigiasant ar unwaith ofalu am yr ysgol, a gwnaethant hynny mewn modd boddhaol am wythnos. Gwelais yn yr ysgol honno wir ystyr addysg grefyddol pe buasent heb agor y Beibl erioed, oherwydd undeb ysbryd a chymdeithas rasol dan "berffaith gyfraith ryddid."

Bûm yn ymweled hefyd yn aml âg Ysgol Howel, Dinbych, ysgol eglwysig a gyfrifid gynt yn geidwadol a snobyddol. Wedi i brifathrawes newydd dynu'r ysgol i drefn a llwyddiant, yn ôl ystyr ystrydebol y geiriau hyn, teimlodd ryw anfoddhad a chymhelliad i aberthu a myned yn genhades i India. Trowyd ei meddwl oddi wrth y genhadaeth dramor at genhadaeth gras yn yr ysgol, a chymryd o ddifrif sanctions addysg grefyddol, sef "Gras ein Harglwydd Iesu Grist a chariad Duw a chymdeithas yr Ysbryd Glân." Gwelai fod hyn yn golygu chwyldro ym moddion yr ysgol a chymhellion meddwl y plant, os oeddynt, mewn gwirionedd i "gael eu maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Felly, wedi trafodaeth a gweddi gyda'r athrawesau eraill, datganwyd i'r ysgol anturiaeth newydd, a chymryd addysg grefyddol o ddifrif; a chyhoeddwyd na byddai na marciau na chosbau o hynny ymlaen. Yn naturiol fe ddigwyddodd yr helyntion sydd i'w disgwyl ym mhob pererindod o gaethwasiaeth yr Aifft i ryddid Gwlad yr Addewid. Yn naturiol hefyd cwymp-