odd y results yn ddifrifol am dro; cwynodd a beirniadodd y rhai arwynebol yn llym, ond yr oedd bywyd newydd yn amlwg yn yr ysgol, a bu'r hen Archesgob, cadeirydd y llywodraethwyr, a hen brifathro ei hunan, yn gysur ac yn gefn i'r athrawesau yn eu hanturiaeth. Y flwyddyn ganlynol enillwyd y ddwy ysgoloriaeth uchaf yn Rhydychen, ac yna daeth troad y rhod a chystadleuaeth rhieni i gael eu plant i'r ysgol. Daeth yr Arglwydd Ganghellor i ddosbarthu'r gwobrau, a soniodd am yr ysgol enwog," a chafwyd can mil yn rhodd at adeiladau ychwanegol. Yn ôl archwilwyr y Bwrdd Addysg, "Nid oes yn yr ysgol ddisgyblaeth, ond y mae ynddi drefn berffaith."
Dymuna pawb goron llwyddiant y byd, ond gwinga pawb yn erbyn croes y tyfiant newydd distadl, "Megis gwreiddyn o dir sych." Ond yn ôl Syr Michael Sadleir, felly y datblyg odd y diwygiadau mwyaf bendithiol a bywydol ym myd addysg, sef o dosturi dynol. Meddyliais weithiau wrth glywed cwyn y dydd yn erbyn militariaeth, cyfalafiaeth, eglwysyddiaeth, a bwganod eraill yr oes, fod diafol pen- pentan yn agosach o lawer: yr oedd yn cael llonydd i weinyddu ei awdurdod fygythiol a rhwystro'r plant rhag myned i mewn i lywodraeth lariaidd Teyrnas Dduw. Canai'r hen fardd gwlad, Siôn Pistyll:
"Echel Duw yw cydweithrediad,
Esmwyth arni try y cread;
Diafol, trwy gael help dynoliaeth
Roddodd echel 'Cystadleuaeth.'
Trowch i'r Eglwys, dyma'r echel
Gaiff ei moli, gaiff ei harddel,
Uchaf marciau arholiadau
Am y mwyaf rhif aelodau.
Pa wahaniaeth i chwi sarnu
Eich cyd-ddynion, os bydd hynny
Er eich mantais yn ariannol,
'Hunan-garedd sydd grefyddol'."
ADDYSG A BYWYD
Cyn i mi ymadael o Lanrwst fe'm gwahoddwyd gan Mr. Wynn Wheldon, Cofrestrydd Coleg Bangor, i geisio dechrau dosbarth (Extra Mural Course) yno dan nawdd y Brifysgol. Tynnais allan gwrs o astudiaeth ar "Gydweithrediad mewn Natur a Chymdeithas"; defnyddiwyd llyfr Kropotkin ar