Mutual Aid yn werslyfr. Yr oedd y cyfarfod cyntaf yn yr Ysgol Ganol, ac yn hynod o ffurfiol a dilewyrch, a phawb wrth ei ddesg ei hun, nes i ni symud i'r gegin ac eistedd o amgylch y tân a'r ystafell. Yr oedd y dosbarth yn hynod amrywiol a diddorol-Rhingyll yr Heddgeidwaid, meddyg anifeiliaid, athrawon ac athrawesau, tyddynwyr, siopwyr, etc. Ceisiais wynebu, yng ngolau rhyfel a rhyfel dosbarth, y syniad Darwinaidd, fel y'i dehonglwyd gan Huxley, Haeckel ac eraill, mai ymdrech ddiystyr a di-foes y "trechaf treisied" ydoedd bywyd natur. Yr oedd y syniadau hyn eisoes wrth wraidd athroniaeth y Sosialaeth Farcsaidd yn yr Almaen a Rwsia, ac yn lledaenu yn Ne Cymru. Dilynwyd enghreifftiau o obaith moesol a welwyd gan fywydegwr, fel Henry Drummond, megis "gronyn o had mwstard," ym mywyd y bychan a'r gwan yn nyth yr aderyn ac yn ffau'r anifail, ac fel yr ymddangosai fel ymdrech o fath arall, ymdrech dros, ac nid yn erbyn bywyd. Dilynwyd lledaeniad bywyd o berthynas i haid y colomennod, a phraidd y defaid, yn ôl "Efengyl Datblygiad" Syr Arthur Thomson, nes dod at y teulu a'r tylwyth dynol, yr hen "gymortha" Cymreig, a'r Seiat a geisiodd rannu beichiau calon, meddwl a chorff dynion, i'r addysg a liniarodd gosb y tad a cherydd yr ysgol a phoenydiaeth y carchardai. Cawsom gyfraniadau gwreiddiol a phrofiadol gan y vet a'r tyddynwr ar natur a magwraeth anifeiliaid, gan yr athrawon ar ddisgyblaeth plant, a chan y Rhingyll ar driniaeth troseddwyr deddf. Fel yr elai'r cwrs (awr o ddarlith ac awr o ymgom) yn ei flaen, yr oedd y diddordeb yn cynyddu, yr ymchwil yn dyfnhau, y cymhwysiad yn agosau, a'r gwrthdrawiad rhwng grym a gras i'w weled ym mhob agwedd o'n perthynas gymdeithasol. Ar ddiwedd y cwrs, ac yn y wledd ymadawol, yr oedd rhyw ddwyster wedi ein meddiannu oll. Dywedodd y Rhingyll siriol a diwylliedig: "Yr ydym wedi darganfod fod cysegredigrwydd a chyfrifoldeb ysbrydol yn perthyn i'r holl alwedigaethau y meddyg, yr amaethwr, yr athro a'r heddgeidwad—ac wedi gweled gwerth gweinidogaeth y naill a'r llall. Pe daliem at y weledigaeth, gellid gweddnewid Llanrwst."
Meddyliais wedyn lawer am y rhyddid, y diddordeb, y dwyster a gawsom ynghyd, a thybiais fod modd ac angen ail-gynneu tân ar hen aelwyd y Seiat Brofiad—nid yn unig i gyffes profiad y galon, ond hefyd i ddealltwriaeth y meddwl