Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ar ei ffordd o Lundain i Gricieth, ac am y fraint a gafodd o weinyddu'r Cymun iddo ar adeg ei orseddiad fel Archesgob, ac fel y credai mai ei hen elyn gynt ydoedd y gwladweinydd â'r weledigaeth bellaf o holl wladweinwyr y wlad. Rhyfedd- ais glywed fel yr oedd yr hen elyniaeth wedi darfod, a chyfeillgarwch wedi cymryd ei lle; ond gofidiais na buasai dau ŵr mor fawr wedi dod yn gyfeillion yn gynt, ac er lles eu gwlad. Soniodd am grefydd yng Nghymru a'r gobaith am Undeb Cristnogol. "Nid Anglo-Catholig mohonof," meddai, gan ysgwyd ei ben drachefn.

Dywedais wrtho nad oeddwn yn credu llawer mewn undeb cyfundrefnol deddfol, ond yn hytrach mewn cyfuneb ysbryd a chyfeillgarwch wrth gydweithio. Dywedais wrtho am y gwaith ym Maes-yr-haf, a Chrynwyr, Eglwyswyr, Presbyteriaid ac Annibynwyr yn byw a gweithio ynghyd heb neb yn tynnu'n groes. "Nid wyf yn disgwyl i chwi," medd- wn, "fod yn gyfrifol am grwydriadau creadur od fel minnau, ond byddai'n gysur teimlo eich bendith ar yr amcan." Er fy syndod atebodd, "O, yn sicr fe'i cewch. A gawn ni fynd ar ein gliniau?" Arhosasom felly am ennyd; yna cododd ac adroddodd y Fendith yn y modd mwyaf archoffeiriadol. Wedi i mi godi, rhoddodd ei law yn fy mraich a dywedodd, "Nid sant mohonof, fel Joyce, ond gŵr garw gyffredin mewn swydd uchel yn yr Eglwys." Bellach diflannodd yr Arch- esgob, a'r Eglwyswr cadarn, a'r gwleidydd pybyr; gwelais dad, a chalon ysig a chatholig y Cristion.

Yr olwg olaf a gefais ar yr hen Archesgob wrth ffarwelio oedd yng nghapel bach ei blas. Gofynnodd: "A gawn ni fyned ar ein gliniau am ennyd?" Felly y bu-minnau yn y côr ac yntau wrth yr allor-mewn distawrwydd hir; ac yna clywais ei lais mewn gweddi yng ngeiriau Newman:

"Arglwydd, cynnal ni ar hyd y dydd o'n bywyd trafferthus, hyd ymestyniad y cysgodion, a dyfod dechreunos, distewir prysurdeb byd, derfydd twymyn bywyd, a gorffennir gwaith. Yna, Arglwydd, yn Dy drugaredd caniatâ i ni lety diogel, gorffwys sanctaidd a thangnefedd yn y diwedd, trwy Iesu Grist, ein Harglwydd."

Ffarwel, a heddwch i'w enaid.

GWERSYLL Y BECHGYN

Yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel, teimlodd nifer ohonom a welodd helyntion y rhyfel ei bod yn bwyer dangos i'r