Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ieuainc fod modd cyfuno gwyl a gwaith a gweddi mewn ffordd naturiol a chyfeillgar mewn gwersylloedd haf i fechgyn Cymru. Yr oedd yr Athrawon C. Harold Dodd, Herbert Morgan, y cyn-Gapten E. C. H. Jones, Tom Ellis, ac eraill, yn weinidogion ac yn leygwyr, ymhlith arloeswyr y mudiad. Am ddeng mlynedd cynhaliwyd gwersylloedd haf i gannoedd o fechgyn Cymru, yn Gymry ac yn Saeson, yn yr Afonwen, Tonfanau, Builth, Aberedw, Manorbier, a mannau eraill yn y De a'r Gogledd. Cysgasom mewn pebyll a chymerasom ein lluniaeth yn llawen, a'n gwaith bawb yn ei dro. Ymunodd hen ac ieuainc i ddringo'r mynyddoedd, ymdrochi yn y môr, chwarae a chanu ynghyd a chyd-weddïo mewn gwasanaeth crefyddol fore a hwyr. Erbyn yr ail Saboth yr oedd y gyfeillach wedi myned mor rhydd a naturiol fel yr aeth yn arfer cadw seiat gan y bechgyn eu hunain. i ddweud eu meddyliau ac i drafod y profiadau a oedd yn eu cyrraedd. Hyfrydwch dihafal ydoedd hyn i ninnau y rhai hŷn, wrth gael rhan ym mywyd meddwl a chalon y bechgyn. Teimlais ein bod, wrth fedru cadw'n ddistaw, fel pe'n gweled cwningod gwylltion wedi mentro o'u tyllau ac yn pori a chwarae yn ein hymyl.

Ym mater "trefn a chynhaliaeth" y gwersyll yr oedd pawb yn rhannu'r gwaith, ac yn cael llais yn nisgyblaeth y trosedd- wyr. Rhan o syniad sylfaenol iawnderau Prydain yw'r hawl i'w "farnu gan eu cymar" (judgment by peers), ac wrth ddod ag achos trosedd gerbron y bechgyn, a gwahodd eu sylwadau, yr oedd eu dyfarniad yn llawer agosach a phwysicach i'r bechgyn na phe buasai "hen ddynion wedi oeri eu gwaed" yn gosod y ddeddf i lawr. Gwahoddwyd i'n plith fachgen o Almaenwr a ddaeth yn fuan iawn i'n serch ac a gollodd ddagrau wrth ymadael â'r gwersyll. Y mae yntau'n awr yn Llu Awyr yr Almaen, a'i gyfaill mynwesol yn y gwersyll yn Llu Awyr Prydain. Beth yw atgofion Karl a Gwilym tybed, a'u hamheuon wrth hedeg i'r entrych i ddinistrio, pan gofiant hwy am gyfeillach diniwed hen-wersyll y bechgyn ym Manorbier? Wrth fyw ynghyd, cafwyd cyfeillgarwch mewn wythnos na chyrhaeddir ei hafal mewn cynulleidfa barchus efallai am flynyddoedd. Pwy a anghofia'r Cymun a weinyddwyd o Fara a Dŵr, a ninnau'n eistedd ar lan afon fach ymhlith y bechgyn troednoeth? Yn wir, nid syniadau, nac enwadau, na sefydliadau, yw sylfaen a moddion gwir gymdeithas, ond dylanwadau "rheffynnau dynol a rhwymau