Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

400,000 o werin y cymoedd i Loegr; bu dros gan mil o wŷr Mynwy a Morgannwg heb waith yn ceisio byw ar ddogn o 23s. i ŵr a gwraig, a 2s. ar gyfer pob plentyn, a thalu 7s. o rent.

YMBLEIDIAETH TORF

Ni ellir chwilio allan achosion rhyfel, na rhyfel dosbarth heb ystyried ffeithiau seicoleg nwyd ac ysbryd y dorf. Erbyn hyn, astudiwyd ac eglurwyd gan efrydwyr o'r natur ddynol pa mor dueddol ydym oll i ysbryd elfennol yr haid sydd yn uno dynion yn erbyn haid arall—mewn sect, plaid, dosbarth a gwlad.

Gair miniog H. G. Wells ar y pwnc yw "Arwydd diffael o'r dyn anianol yw ei feddwl ei fod yn uno wrth uno yn erbyn." Gwelsom undeb y cynghrair gyda'r Eidal a Siapan yn y rhyfel olaf; gwelsom undeb Anghydffurfwyr yng Nghymru yn erbyn yr Eglwys yn helynt. Datgysylltiad; gwelsom gyfnewidioldeb y dorf yn y Rhondda bob deng mlynedd yn 1904 yn heidio i'r capelydd, yn 1914 yn heidio i'r rhyfel, yn 1924 yn heidio i'r gwrthryfel politicaidd yn erbyn y Llywodraeth, ac yn 1934 yn heidio i'r Blaid Gomiwnyddol yn erbyn y Blaid Lafur. Ac yn ymbleidiaeth torfeydd hyd heddiw, nid rheswm ond rhagfarn rhyfygus sydd yn ennill clust a chalon. Cofiaf ddatganiad Syr Alfred Mond yn 1924 fod pob pleidlais i'r Blaid Lafur yn bleidlais "tros flag waedlyd Rwsia." Gwelais yn y Times heddiw (Gorffennaf 1942) achos yn y Llys gan Pemberton Billing, a safai dros frwydro'n fwy didostur â'r Almaen, yn cyhuddo ei orchfygwr yn yr etholiad o dramwyo drwy strydoedd yr etholaeth gan weiddi trwy loud-speaker fod "pob pleidlais dros Pemberton Billing yn bleidlais i Hitler." Nid yr "etholedigion" yw'r gwŷr a etholir felly i'r Senedd. Effaith propaganda cyhoeddi llythyr Zinoviev ar fin yr Etholiad Cyffredinol yn 1924, trwy foddion y Swyddfa Dramor, a gafodd y llythyr gan ysbiwr di-enw, heb sicrwydd nad oedd yn dric celwyddog, oedd cwymp Llywodraeth Macdonald. Drylliodd hyn gynllun Protocol y Cenhedloedd yn Genefa, a oedd eisoes wedi ei dderbyn gan yr holl genhedloedd, i baratoi moddion cyflafareddiad diogeliad a diarfogiad; gwrthodwyd y cynllun wedyn gan y Llywodraeth Doriaidd a etholwyd.[1]

  1. Gweler A Retrospect, Lord Parmoor.