Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Enwaf y pethau hyn i bwysleisio cyfrifoldeb arbennig yr eglwysi i "fagu barn ar y ddaear" rhag i'r defaid dynol gael eu gyrru gan ragfarn plaid dros y dibyn, ac i ddisgyblion Crist anghofio rhybudd difrifol yr Iesu: "Paham na fernwch, ie ohonoch eich hunain, y pethau sydd gyfiawn?" a chymodi â'r gwrthwynebwr ar frys cyn myned tan ddeddf dial a distryw.

CYNHADLEDD OBERAMMERGAU

Yn ystod haf 1926 fe'm gwahoddwyd i Gynhadledd Heddwch Gydwladol yn Oberammergau yn Bafaria. Yr oedd y pentref hynod yn enwog drwy'r byd oherwydd adduned y pentrefwyr dair canrif yn ôl i ddathlu Pasiwn y Groes bob deng mlynedd fel offrwm i Dduw. Tynnai hyn ymwelwyr o bob cenedl, a chysegrir blwyddyn y pasiant gan yr holl drigolion. Arhosais yn nhŷ un o'r pentrefwyr siriol a duwiolfrydig, a chlywais gloch yr offeren feunyddiol am saith bob bore, pan lanwyd yr Eglwys â'r addolwyr defosiynol. Cyfarfûm ag Anton Lang, a chwaraeodd ran yr Iesu yn y pasiant dros drigain gwaith yn ystod yr haf, am dair awr o berfformiad dwys a difrif. Gwerth y cwbl a enillodd yr haf hwnnw oedd pâr o esgidiau. A dyma wlad y gelyn y'n dysgwyd ei fod yn rhinwedd i ddistrywio ei thrigolion, yn wŷr, gwragedd a phlant, yn ystod y rhyfel. Rhyfedd oedd gweled yno y gofgolofnau i'r bechgyn a gwympodd "Dros eu Duw a'u gwlad," a gweddïau y mamau a ysgrifennwyd ac a osodwyd mewn cas gwydr yn ystod y rhyfel wrth groesbrennau'r croesffyrdd: "O santaidd Fam, cymorth ni, a thyred a'n bechgyn yn ôl i ni." Cwrteisi a diwylliant y pentrefwyr, a glendid llygaid gleision y plant, a'u cyfarchiad syml Gruss Gott a drawai ddyn ym mhob man. Cynhaliwyd rhai o'n cyrddau yn ysgol y plant. Ym mhob ystafell yr oedd delw Crist, a hefyd ddarluniau o Bismarc, Von Moltke, a'r hen arweinwyr milwrol. Ond nid yn yr Almaen yn unig y dysgwyd deuoliaeth gwasanaeth Crist a Mawrth, a Christ a Mamon.

Y Dr. Siegmund Schultze, cyn-gaplan yr Ymherawdr, oedd llywydd y Gynhadledd a gynrychiolai ddeiliaid cenhedloedd Ewrop, gwŷr a gwragedd o Holand, Denmarc, Sweden, Rwsia, Tsieco Slofacia, Groeg, Bwlgaria, Ffrainc, y Swistir, America, Awstria, Hwngari, Esthonia, Ffinland, Iwerddon