Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a Chymru, a llawer gwlad arall. Cymerasom ein lluniaeth ynghyd ac yn llawen yng ngwesty hynafol y "Rhosyn Gwyn," ac wrth bob bwrdd yr oedd cyfuniad rhyfedd o genhedloedd na chyfyrdduasant erioed o'r blaen. Cofiaf Bwlgakov, cyn- ysgrifennydd y proffwyd Tolstoi, yn canu alawon gwerin Siberia; ac aelodau o Adar Crwydrol. (Wandervogel) yr Almaen a aeth allan yn finteioedd llawen o lanciau a genethod i weithio ar y ffermydd, ac i ganu yn y pentrefi hen alawon gwerin eu gwlad, a cheisio dychwelyd at symledd bywyd rhyddid a natur, mewn adwaith i ddisgyblaeth lem militariaeth a diwydiant yr hen Almaen. Cofiaf Yanco Todoroff y Bwlgar, a'i wallt du, a'i fraich am ysgwydd - Groegwr ieuanc pryd-golau, hardd, Orestes Iatrides, ac yn sibrwd wrthyf: "Ymleddais â'r Groegiaid ddwy waith, ond dyma'r tro cyntaf i mi gael ymgom fynwesol ag un ohonynt, a theimlaf fod Iatrides yn fachgen ardderchog."

Cofiaf seiat brofiad yng ngolau canhwyllau yng ngoruwch-ystafell yr hen westy, a chlywed profiad y rhyfel a hanes ing enaid o enau'r gwŷr a'r gwragedd a ddaeth i sicrwydd fod gan Dduw well ffordd na rhaib a rhuthr rhyfel i ddiogelu cyfiawnder a rhyddid. Clywais nifer o efrydwyr o Brifysgol Munich yn adrodd fel yr oedd cannoedd o'r efrydwyr yn gorfod byw ar ryw bum swllt yn yr wythnos oherwydd tlodi mawr y dosbarth canol. Cefais wybodaeth gan Bwlgakov, ac eraill o'r Rwsiaid, am erledigaeth a thrueni disgyblion Tolstoi dan yr Unbennaeth yn Rwsia er eu bod erioed wedi tystiolaethu yn erbyn gormes militariaeth a chyfoeth, dan lywodraeth y Tsar; a chlywais am Hwngari a chreulonderau plaid y Dde wrth y gwrthryfelwyr gwaedlyd Bolsiefaidd. Ar bob llaw yr oedd hanes trais yn magu trais, yn ymgyrch cenedl, plaid a dosbarth. Cyfaddefodd y Brenin Boris, Brenin Bwlgaria, wrth gyfaill i mi a aeth ar genhadaeth hedd i Soffia, ac a gyrhaeddodd y diwrnod wedi llofruddiaeth esgobion a mawrion gwlad gan fomiau'r wrthblaid yn yr eglwys gadeiriol-ei fod bron anobeithio ym mhob plaid ac yn gofidio na fuasai'r Eglwys Uniongred trwy'r gwledydd Balcanaidd yn ceisio tynnu'r cenhedloedd at ei gilydd yn hytrach na chwythu tân eu cynnen genedlaethol. Teimlai llawer un yn y gynhadledd yr angen am fyned yn ôl at Grist ei hun, o draddodiad cenedlaethol yr eglwysi, a dysgu o'r newydd ysbryd a gweithred ei ddisgyblaeth Ef.

Ym Munich gerllaw, yn y dyddiau hynny, yr oedd milwr