dinod o Awstria yn cymell ei hen gyd-filwyr i godi a sefyll yn erbyn gormes estroniaid, yr Iddewon rheibiol, a'r cyfalafwyr dienaid, a thros yr Almaen ac yn erbyn anarchiaeth y Bolsiefiaid gwrthryfelgar. Adolf Hitler oedd hwnnw. Drylliwyd yr Almaen gan ugain o fân bleidiau, a chan ormes y Ffrancwyr a gwrthryfel oddi mewn, a chan anobaith y saith filiwn o wŷr di-waith. Cofiaf ymgom â chyn-gapten o fyddin Ffrainc, a adroddodd i mi fel yr ymladdai trwy'r rhyfel â chydwybod glir nes clywed telerau Heddwch Fersai: yna sylweddolodd eu bod yr un mor ormesol â phe buasai'r Almaen wedi ennill y rhyfel. Ymddiswyddodd o'r fyddin a chynigiodd wasanaeth ei fywyd i Gynghrair y Cenhedloedd. Pwysais arno adrodd ei brofiad yn y gynhadledd, a gwnaeth hynny pan ar fin ymadael; yno cododd yr Almaenwyr, y naill ar ôl y llall, pan ddychwelai o'r llwyfan, i wasgu ei law o ddiolch am fod un Ffrancwr o leiaf yn teimlo drostynt, ac yn cyffesu'r cam a gawsant.
Arhosais wedyn mewn ffermdy bychan ym mynyddoedd y Tirol, a chlywais gyda'r nos y gŵr a'r wraig a'i ferch yn y gegin yn canu hen alawon. Clwyfwyd y gŵr yn y rhyfel, ond nid oedd ganddo fawr o syniad am ei achos na'i angen, ond fod yn rhaid iddo fyned i'r fyddin i ymladd yn erbyn yr Eidal. Gwelais yn Innsbruck, prifddinas y Tirol, weddw prif gadfridog Awstria, a oedd o dras uchelwyr pennaf Ewrop, ond a oedd yn awr mewn tlodi dirfawr ac yn gorfod ei chynnal ei hun wrth ddysgu ieithoedd. Gwelais hefyd rai o'r plant a ddygwyd i Loegr a Chymru yn newyn ofnadwy 1920, a mawr oedd eu canmol o'r caredigrwydd a gawsant. Cofiais am Betty fach a ddaeth gyda hwynt o Vienna i Dŷ'n y Maes yn Nant Ffrancon wyllt fynyddig, ac am y cariad a'i cwmpasodd yno. Cyflwynwyd i'r Dr. Joan Fry gan Brifysgol Gatholig Innsbruck y radd o Ddoethor, o barch i waith dyngarol y Crynwyr yn y dyddiau hynny, a gadwodd gynifer o blant yn fyw, a goleuni Crist rhag ei lwyr ddiffodd yng ngelyniaeth y cenhedloedd. Yng nghanol tref Innsbruck safai cofgolofn fawr i ddeng mil o wladwyr y Tirol ac arno y geiriau syml trist "Trengasant yn ofer"; ar bob llaw clywais y gŵyn fod mynyddwyr Deheudir y Tirol, o dras a diwylliant puraf a hynaf yr Almaenwyr Awstriaidd, wedi eu gosod dan drais Mussolini a'r Eidalwyr gan y cenhedloedd a broffesai ymladd dros "hawliau'r cenhedloedd bychain." Gwaharddwyd bellach eu hiaith yn yr ysgolion,