newidiwyd enwau eu trefydd hen, a distrywiwyd hyd yn oed gerrig beddau'r milwyr a drengodd dros Awstria; a llanwyd yr ysgolion gan athrawon Ffasgaidd anniwylliedig o'r Eidal, a geisiodd lwyr ddiystyrru tras a thraddodiad y plant.
YR EGLWYS
Yn 1918, yn nistawrwydd carchar Birmingham, meddyliais gryn dipyn am "natur eglwys." Yr oedd gennyf gysylltiadau tras a thraddodiad â'r Hen Gorff trwy fy nhaid, John Jones Tal-y-sarn, a'm teulu, a thrwy lawer o bersonau a chyffyrddiadau cynnes a wnaethum yn Llŷn y flwyddyn cynt; ond nid oedd y berthynas bellach yn gyfyngedig i un enwad arbennig. Yng ngwaith Brawdoliaeth y Cymod deuthum i gyfeillach ddyfnach ac ehangach nag aelodaeth ffurfiol â brodyr o bob enwad, ac yn arbennig felly gyda'r Crynwyr yn eu hagwedd at ryfel, a rhyddid cydwybod, a'u Cenhadaeth Hedd mewn llawer cylch. O beth i beth, deuthum i'r argyhoeddiad mai personol a grasol, ac nid cyfundrefnol a deddfol, ydoedd ystyr aelodaeth, sef bod aelodau o Gorff Crist yn aelodau o'i gilydd." Felly, ond nid heb betruster rhag camddealltwriaeth, penderfynais roddi fy aelodaeth i fyny, a "thorri'r asgwrn er mwyn ei hasio yn well." Medrais anfon llythyr o'r carchar yn ceisio egluro hyn i awdurdod- au'r Corff. Yr oeddwn wedi manteisio, er hynny, cynt a chwedyn, ar bob cyfle i fynychu moddion a chymdeithas y brodyr pan yn gweithio ar y tir, ac yn fawr fy serch at gapelau bychain a chymdeithasau cartrefol gwlad Llŷn; ond teimlwn rywsut y gwahaniaeth dwfn rhwng y gymdeithas gartrefol rydd a phersonol a'r cyfundrefnu deddfol a chaeth. Wedi fy rhyddhad o garchar, parheais i fynychu a mwynhau'r moddion yng nghapel bach Nant Ffrancon, ac i bregethu neu annerch pan fyddai drysau'n agor "tan ras."
Wrth geisio dibynnu ar ras a gwahoddiad, teimlwn yn fwy rhydd fy meddwl nad oeddwn yn ymwthio dan hawl, ac yn groes i'r graen. Yn 1925, pan yn pregethu yng nghapel bach Salem y Coed, ger Llanrwst, pwyswyd arnaf yn daer ac yn dyner gan y Parch. E. O. Davies, llywydd y Sasiwn, i ym- aelodi drachefn am fod fy niffyg aelodaeth yn "dramgwydd i'r saint." Eglurais wrtho na fynaswn dramgwyddo neb, ond na allwn gymryd arnaf fy mod yn derbyn y Gyffes Ffydd gyfreithiol, na'r rheolau disgyblaeth a oedd yn peri diarddel