Gwerthfawr iawn yn wir ydoedd Fraternal y gweinidogion unwaith y mis, ond nid oedd cyfnewid pulpudau yn gyffredin, ac nid oedd cyfathrach rhwng capel ac eglwys. Eithriad ydoedd arfer eglwysi Abergynolwyn fynyddig ar Saboth Seiat y Cenhedloedd. Gwahoddwyd fi yno i bregethu, yn y bore yn Eglwys y Plwyf, yn y prynhawn yn hen Eglwys Llanfihangel y Pennant, a'r Ymneilltuwyr yn bresennol, ac yn y nos yn y Capel Methodist a'r Ficer a'r eglwyswyr yn y gynulleidfa. Gwnaeth arwydd o'r fath rywbeth i'n hatgofio am gyffredinolrwydd y Ffydd, a'n cyfrifoldeb am y byd mawr cenhedlig, drwy geisio Cynghrair y Cymdogion fel sail leol i Gynghrair y Cenhedloedd.
Ceisiwyd hefyd yn y dref, oedd mor ranedig gan hen ymrafael Tori a Rhyddfrydwr, dynnu'r dinasyddion ynghyd gan Gymdeithas y Trethdalwyr. Ceisiwyd gan brif feddyg y dref fanteisio ar gynnig y Llywodraeth i dalu costau gwelliannau cyhoeddus er mwyn rhoddi gwaith a chyflog i'r diwaith; a chan fod nifer o'r fath yn dioddef, a chyflwr y dŵr yn druenus, hyrwyddwyd mudiad cyhoeddus i erfyn ar y Cyngor weithredu. Ond buan y codwyd gwrthwynebiad yr wrthblaid, er bod yr amcan ynddo'i hun yn briodol ac amserol. Gwelais fod ymbleidiaeth yn rhannu'r gwersyll a cheisiais wrth lywyddu yng nghyfarfodydd chwarterol y trethdalwyr feithrin rhyddid barn a llafar, ynghyd â chwrteisi trafodaeth, a thipyn o hiwmor. Credaf i'r cyfarfodydd hyn ysgafnhau'r awyr gryn dipyn, a chwalu peth ar y cymylau llethol o ymbleidiaeth a drwgdybiaeth a oedd yn cadw cymdogion yn gaeth yn eu cregyn.
Teimlais lawer tro wrth ystyried y sefyllfa, a oedd mor debyg i sefyllfa llawer pentref yn y De, wirionedd sylw'r hen William Ellis Maentwrog, wedi iddo fod ar y traeth ym Mhorthmadog yn cael llwyth o lo, ac yn holi yn y seiat wedyn: "A ydyw cregyn bach y traeth yn agor eu genau am fod y môr yn dod i mewn, neu ynteu a ydyw'r môr yn dod i mewn am eu bod hwy yn agor eu genau?" Fe welwyd rhywbeth o'r fath y llynedd pan dorrodd dilyw rhyfel dros drefydd a phentrefi; yr oedd y trueni yn torri'r cregyn, a phobl barchus suburbs Llundain yn dechrau adnabod a hoff eu cymdogion, efallai am y tro cyntaf. Cafodd ffoaduriaid a noddedigion groeso, oherwydd y storm, mewn cartrefi na buasent erioed wedi agor eu drysau cyn y rhyfel; ond pwy a ŵyr na buasai modd atal llifogydd dinistriol gelyniaeth pe