Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

buasai'r cregyn wedi agor i gariad cymdogol, a chreu ambell ynys o gymod a chydweithrediad, fel y gwelais hwynt ymhen blynyddoedd yn nirwasgiad y Rhondda?

Yr oedd bywyd o'r fath i'w weled yn agosach ac yn anwylach mewn ambell gwm yn y wlad nag yn nhrefydd glannau'r moroedd. Er enghraifft, yr oedd capel bach y Bwlch, Tonfannau, tair milltir o'r dref, yn "achos delfrydol" yn ôl datganiad ymwelwyr y Cyfarfod Misol. Amaethwyr a gwladwyr oeddynt oll. Cynhaliwyd yno Ddosbarth Tutorial y Brifysgol gan Ifan ab Owen Edwards am dair blynedd, a'i effaith ar ddeall a dawn a rhyddid ymadrodd gwragedd y ffermydd a'r gweision yn amlwg-y seiat yn rhydd a dwys a chartrefol; hefyd yr oedd teimladau hynod o gynnes rhwng yr hen flaenor William Jones a'r ieuainc oed, a hefyd â'r tirfeddiannwr, y Capten Nanney-Wynn, a oedd yn arfer anfon danteithion a blodau o'r plas at wledd y Cyfarfod Misol. Teimlwyd ar unwaith mewn lle o'r fath fod gwahaniaeth mawr rhwng cyfundrefnu a chyfanu, mewn byd ac Eglwys, rhwng oerni deddfol y naill a chynhesrwydd grasol y llall, rhwng caethiwed ymbleidiaeth sectyddiaeth a rhyddid ysbryd cymdogaeth a chymortha cyffredin.

Mewn ambell bentref gwnaeth mudiad Neuadd y Pentref, a'r Women's Institutes, dan arweiniad doeth, gryn dipyn i dynnu gwerin ardal ac eraill at ei gilydd. Onid yr Eglwys, yn hytrach na'r Ddraig Goch, a ddylasai fod yn "ddyry gychwyn" i bob cyfuno o'r fath? Yn wir fe ddatganodd yr Uchel Eglwyswr enwog, y Tad Stanton, amcan cymdeithasol ei eglwys mewn brawddeg gartrefol iawn: "We have no other object than that of chumming up together for the love of God." Diffiniwyd natur gwir Eglwys Crist gan yr athronydd a'r prifathro John Oman hefyd mewn geiriau eithaf syml: "Cymdeithas anneddfol yw'r Eglwys yn yr hon, os cyfyd gwahaniaethau ac anawsterau, y mae'r apêl olaf at galon brawd; pwysicach yw hyn na dull llywodraeth yr Eglwys, boed hynny drwy Esgob neu Bresbyter."

Ysgrifennaf yr atgofion hyn yng ngwesty hen fynachlog y Tad Ignatius yng Nghapel y Ffin. Ceisiodd y gŵr hynod hwnnw ail-godi gogoniant hen Abaty Llanthony mewn oes newydd, a chyfuno'r grefydd Efengylaidd â'r traddodiad Catholig, heb rwymau Eglwys Rufain. Pum milltir i'r de y saif muriau anferth hen Abaty Pabaidd yr Oesoedd Canol yn syndod o waith seiri ac adeiladwyr yn ei ysblander diryw-