Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iedig; tros y mynydd, ger Talgarth, y mae Coleg Trefeca, ac adeiladau'r Teulu crefyddol a dynnwyd ynghyd gan Howell Harris fel datganiad ffydd a chynllun y saint yn yr Eglwys Fore, "a phob peth oedd ganddynt yn gyffredin ac nid oedd eisiau ar neb." Clywais ei fod yn hen arfer gan efrydwyr Coleg Trefeca gerdded dros y mynydd, ar Ddydd Llun y Dyrchafael, i fynachlog Capel y Ffin, a chael croeso'r Tad Ignatius a lle yn y gwasanaeth seremonïol. Felly, o oes i oes, y datgan deiliaid yr eglwys eu breuddwyd am wir gymdeithas y saint, yn hytrach na sect a chynulleidfa, heb nemor ddim ganddynt yn gyffredin yn eu bywyd beunyddiol. Saif olion y sefydliadau a'r cyfundrefnau, ond y mae'r ysbryd yn chwythu ym mhob oes i'r fan a fynno ac yn cymryd ffurfiau eraill o oes i oes. Yn ystod y rhyfel presennol dat- blygwyd nifer mawr o Gyfundebau Cristnogol (Christian Communities) yn amcanu at y nod yma. Yn Sgotland defnyddir Ynys Iona i feithrin ysbryd yr hen ymneilltuaeth fynachaidd, gan y Parch, George Macleod i ddysgu i weinidogion ieuainc Presbyteraidd, ac eraill, waith tir a chrefft llaw, myfyrdod distawrwydd, a hyfforddiant crefyddol, i'w cymhwyso i fyned fel cenhadon i ganol pentrefi Sgotland, a slymiau'r trefydd, a chydweithio â'r gweision ffermydd a labrwyr y ddinas.

Gwelais yr un duedd ymchwil am ffordd yr Efengyl ym mhwyllgorau C.O.P.E.C. (Cynhadledd ar Bolitics, Economeg a Dinasyddiaeth) a drefnwyd gan y Canon Raven dan lywyddiaeth yr Archesgob Temple. Yr oeddwn yn aelod o'r Comisiwn ar "Gristnogaeth a Rhyfel" dan lywyddiaeth y Canon Underhill, Esgob Bath a Wells yn awr. Gwelwyd yno ei bod yn bosibl trafod cwestiynau dyrys a dwfn, a'u gwneuthur yn fan cymod yn hytrach na man cynnen. Cefais yr un profiad yng Nghynhadledd y Wesleaid, ac yng Nghynhadledd Cymdeithas Genhadol Llundain yn Swanwick, wedi gwahoddiad i drafod mater y Genhadaeth Hedd mewn cylchoedd cymdeithasol. Yn wir, yr oedd y cenhadon, a oedd yno ar eu gwyliau o Sina ac India, yn blaenori yn y cais am ffordd yr Efengyl allan o ryfel ac ymbleidiaeth, a sectyddiaeth. Yr oedd y cwestiynau hyn yn bynciau llosg yn yr eglwysi ieuainc yn y Dwyrain a oedd yn gorfod wynebu rhyfel cartref, cenedlaetholdeb, Comiwnyddiaeth, a chynnen dosbarthiadau meddwl y 153 o sectau Cred a oedd yn efengylu yn Sina.