Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cofiaf hefyd yn 1926 gyfarfod yng Ngholeg Harlech â Chrynwyr ac eraill a oedd yn pryderu ynghylch cyflwr Deheudir Cymru a'r modd i ddod â chymorth a chymod yno. Wedi'r seiat, a thrafodaeth am dridiau, dychwelasant i'r cymoedd llwm i geisio camau'r cymod a'r cyfiawnder a oedd yn eu cyrraedd; a dyna ddechreuad Cenhadaeth Hedd y gwaith gwirfoddol ac adeiladol cyntaf i gynorthwyo'r di- waith yn y Rhondda ac ym Mhrydain. Mewn gwirionedd, "Deuparth gwaith yw ei ddechrau"-a'i ddechrau'n fach.

TOM NEFYN

Yn y blynyddoedd hynny cododd cwmwl yng Nghymru "megis cledr llaw gŵr" yn achos Tom Nefyn. Mab ydoedd i'm hen gyfaill hoffus a gwreiddiol, y bardd J.T.W., a gyfunai ynddo'i hunan ddawn a thraddodiad a duwioldeb gwerin Llŷn. Cychwynnodd troedigaeth Tom yn uffern y rhyfel pan yn gorwedd yn ei glwyfau ar "randir neb" rhwng byddinoedd Twrci a Phrydain am ddeuddydd. Oddeutu'r amser yma y canodd ei dad:

"Oes trenches yng Ngardd Gethsemane,
I fechgyn a fagwyd yn Llŷn?"

Dechreuodd ar ei genhadaeth ymhlith ei gyd-filwyr, ac yn araf deg enillodd ei ddwyster a'i ddewrder iddo le. Ond ar ôl iddo ddychwelyd i'w gartref yn y Pistyll, ar lethrau'r Eifl, y gwelais ef gyntaf, yn tystio mewn dillad gwaith ym mhen- trefi Llŷn, i'r waredigaeth yng Nghrist. Rhyw chwarae rhwng Seina a Seion yr oedd teithi ei feddwl, ac nid wyf yn sicr na ddyfnhawyd peth ar gysgod Seina gan gwrs yn Ysgol Feiblaidd y Porth. Nid oeddwn yn cyd-weld â llawer o'i syniadau Ysgrythurol; ond am ei argyhoeddiad ynglŷn â phechod a'r ymwared a ddwg yr Efengyl, ni theimlais un ias o amheuaeth.

Wedi iddo fod yng Ngholegau'r Bala ac Aberystwyth, a dilyn cyrsiau correspondent ar yr un pryd mewn amryw bynciau, chwalwyd cryn lawer ar ei gyfundrefn feddyliol; daeth allan o'r athrofa yr un mor selog dros onestrwydd meddwl ag ydoedd gynt dros onestrwydd moesol. Galwyd ef yn weinidog i'r Tumble, Sir Gaerfyrddin, wedi iddo egluro i'r pwyllgor yno ei farn am ddisgyblaeth eglwysig, a'r angen am ddulliau newydd a chreadigol ym myd crefydd. Buan yr wynebwyd ef gan garchariad nifer o lowyr a oedd ar streic,