Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan gyflwr truenus tai llawer o weithwyr, a chan y rheidrwydd i gael dolen-gydiol rhwng addoliad y Sul-a'r ymdrech economaidd yn ystod y chwe diwrnod arall. Nid pethau abstract oedd syniadau iddo ef, ond i'w bachu wrth gerbydau bywyd.

Newidiwyd dulliau'r seiat a'r cyfarfod gweddi. Mewn dosbarth o'r ysgol Sul rhoed iddynt ryddid i astudio Christ and Labour o waith y cenhadwr C. F. Andrews. Gofalwyd na ddysgai'r plant ddim ond pethau positive; ac yn eu hoedfa hwy ar ambell fore Sul, wrth chwarae â hwy ar nawn Sadwrn, ac mewn grwpiau gyda'r nos, ceisiwyd dyrchafu eu teimladau trwy straeon cain a dramatig. Yn lle'r ddisgyblaeth gyfreithiol, fe'i gwnaethpwyd yn beth preifat a seicolegol. Trefnwyd sgyrsiau byr ar derfyn yr ysgol Sul yn ymwneud â phethau dyrys y Beibl. Yn ystod y gaeaf torrid yr eglwys yn raddau fel y ceffid agosau at bob oedran ar hyd ei sianel ei hun. Troed y seiat ar derfyn oedfa nos Sul yn gyfle i'r gynulleidfa drafod gyda'r pregethwr ambell bwynt a godasai yn ystod y dydd. Ac am dymor yr ymryson diwydiannau yn 1926 agorwyd y festri'n achlysurol er mwyn i'r di-waith gael trafod materion diwylliannol, ac anerchwyd rhai o'r cyfarfodydd gan wŷr deallus a da o bleidiau'r Chwith.

Nid hir y bu cyn i'r gwin newydd ddechrau dryllio'r hen gostrelau. Cwynwyd ei fod yn pregethu ei syniadau ei hun, ac yn adeiladu'r eglwys yn ei ffordd ei hun; ac wedi berw yn yr Henaduriaeth, ac mewn mwy nag un Sasiwn, a'r gwasgu a fu arno gan rai, fe'i gorfodwyd i sgrifennu pamffledyn ar frys, Y Ffordd a Edrychaf ar Bethau. Yr oedd yn amlwg ddigon fod lefain yr ymchwil yn gweithio'n rymus i bob cyfeiriad yn ei feddwl. Penodwyd pwyllgor o ddiwinyddion i ystyried yr achos, a chawsant hwythau fod ei syniadau'n anuniongred mewn amryw faterion o bwys; ac mewn canlyniad ataliwyd ef rhag pregethu mwyach yng nghapelau'r Corff, nes iddo gydymffurfio â safonau'r enwad, er iddo geisio arbed hynyma i'r awdurdodau ac osgoi rhwyg pellach, trwy ymddiswyddo o ofal eglwys leol a myned am gwrs i Loegr. Cynigiodd hynny ddeufis cyn Sasiwn Nantgaredig, yn Awst 1928, phlediodd ar ei ddilynwyr i beidio â chilio o'u hen enwad oherwydd chwerwder.

Datgorfforwyd ei eglwys ychydig yn ddiweddarach gan Gyfarfod Misol De Caerfyrddin. Yr oedd hen ac ifainc heb