Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

le bellach i roddi eu pennau i lawr. Gorfododd hyn ei ddilynwyr ymhen tipyn i adeiladu Community House i addoli a chymdeithasu ynddo. Yr oedd Tom Nefyn eisoes wedi ennyn diddordeb rhai o'r Crynwyr, ac aeth y Dr. Henry Gillett a'm brawd yn warant drostynt yn y banc. Un o'r pethau gwerthfawrocaf oedd sêl ac ymlyniad y grŵp diarddeledig yn y Tumble. Cynhyrfwyd y wlad yn fawr gan yr achos, canys ymddangosodd yn fras i'r cyhoedd fel gwrthdrawiad rhwng awdurdod deddf a rhyddid, rhwng ffwndamentaliaeth y llythyren ac ehangder y feirniadaeth fodern a ddysgid ym mhob Coleg. Rhannwyd y wlad a'r eglwysi yn ddwyblaid. Cydymdeimlai llawer gweinidog a lleygwr, ond yn ôl y Weithred Gyfansoddiadol, yr oedd holl eiddo'r Cyfundeb ynghlwm wrth lythyren y Gyffes Ffydd.

Cryn benbleth i heddychwr ydoedd dirnad modd y geisio heddwch yn wyneb deddfwriaeth a oedd yn barod i ddisgyblu gweinidog a chynulleidfa mor llym, am syniadau a oedd yn nhawddlestr meddwl y wlad ac am ymgais i foldio bywyd eglwys ar batrwm addas i oes newydd.

O weled Tom Nefyn heb na chyhoeddiad na chartref, a'i briod ei hun bellach heb aelodaeth eglwysig yn unman, a'i ddilynwyr wedi eu troi ar gomin y byd, fe benderfynais ymneilltuo o'm gofalaeth eglwysig fel gwrthdystiad yn erbyn disgyblaeth a thriniaeth yr ymgroeswn rhagddynt yn gyhoeddus pan y'm derbyniwyd i aelodaeth a gweinidogaeth y Corff. Yna euthum i Goleg y Crynwyr yn Woodbrooke, ger Birmingham, am flwyddyn. Pan oeddwn yno, daeth Tom i'm gweld, wedi trafaelio trwy'r nos, i sgwrsio gyda mi ynglŷn â'r cam nesaf, a bwysai'n drwm ar ei galon. Yr oedd ef ei hun eisoes wedi mynd yn aelod cyffredin o Eglwys Bryn Bachau, yn Eifionydd, fel rhyw gesture syml a chyhoeddus. Gwnaeth hynny er mwyn cadw pont rhyngddo a'r rhai cyfeillgar, byw, effro y tu mewn i'r Hen Gorff; ac ar y llaw arall, rhag i'w fynd a'i ddyfod at ei ffrindiau yn y De beri'r argraff ei fod â'i fryd ar ledu y rhwyg yn yr eglwysi a chychwyn rhyw sect newydd o liw modern a lled boliticaidd.

Ond ynghylch dau beth arbennig yr ymwelsai â mi yn Woodbrooke, sef (1) Awydd grŵp o athrawon a gweinidogion llydan eu cydymdeimlad am adfer ei wasanaeth i'r enwad, a (2) Llythyr y bwriadai yntau ei anfon i'r Goleuad mewn ymchwil am dir canol. Pa fodd bynnag, yn ei lythyr rhoddai fras-olwg ar ei bererindod meddyliol yn ystod y