Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddwy flynedd yn yr anialwch. Rhoddai ei ddehongliad o fformiwla'r Drindod am i Grist ymddangos iddo fel yr Un a gyfieithai'r ochr dransendent i brofiad yn nhermau Tad, a'r ochr imanent yn nhermau Ysbryd, a weithia yng nghyfeiriad daioni a sancteiddrwydd. Hefyd datganai fod ei osgo at Grist bellach o naws mwy positive. Ond yn sgîl y datganiad hwn o'i eiddo fe godai anhawster: fe'i cyhuddid drachefn gan rywrai o wthio'i syniadau ei hun ar yr enwad. Oherwydd hyn, fe'i gorfodwyd i chwilio am ryw safon o eiddo'r Cyfundeb ei hun. Ni fedrai dderbyn y Gyffes Ffydd, dim ond fel carreg filltir hanesyddol. Ni fedrai chwaith dderbyn yr Erthyglau Diwygiedig a oedd bellach ynghlwm wrth y Mesur Seneddol, a hynny am fod cyfyngu wedi bod ar ambell gymal ohonynt. Ond fe'i gwelai'n bosibl i dderbyn y Datganiad Byr fel amlinelliad o'i ffydd—hwnnw a adroddid ers tro ym mhob Gwasanaeth Ordeinio. Disgrifiad o bethau mewnol ydoedd, nid diffiniad deddfol. Yr oedd o naws Salm ac emyn, ac nid credo caled; medrai dau o safbwyntiau pur wahanol ei gyd-adrodd a rhoi iddo eu dehongliad personol eu hunain.

Chwilio am ddeunydd pont yr oedd am y tir canol. Darllenais ei ddatganiad drwyddo yn ofalus, a gwrandewais ar ei resymau dros dderbyn, fel amlinelliad o'i ffydd, y Datganiad Byr, a dderbyniais innau heb anhawster. Wedi trafod yr holl safle gyda'r Athro Fearon Halliday, ni welwn le i dramgwydd, na rheswm dros beidio â gyrru'r ysgrif i'r Goleuad. Nid oedd gennyf, fel cyfaill a heddychwr, gyngor gwell na'i annog i "gadw'r bont" cyn belled ag y dibynnai hynny arno ef, heb aberthu na gras na gonestrwydd y gwirionedd, ond ceisio, yn ôl yr Apostol, "os yw'n bosibl hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlawn â phob dyn."

Atebodd yntau: "Oni welwch fel y bydd y cam hwn yn cael ei gam-ddeall gan y dorf sydd â'i diddordeb ym mlaenaf dim mewn buddugoliaeth plaid a brwydr? Recantation fydd gair y Wasg. 'Bradwriaeth' fydd gair y dorf. 'Annigonol' fydd gair Ceidwaid y Ffydd. Byddaf bellach yr un mor unig rhwng y pleidiau a phan orweddwn yn glwyfedig rhwng y byddinoedd yn Gaza."

Gwyddwn innau o brofiad a hanes gwleidyddiaeth ac ym- bleidiaeth pa mor anodd oedd cyhoeddi telerau heddwch ac ymresymu ynghyd heb i hynny ymddangos i'r ymbleidwyr fel gwaith bradwr. Gwelwyd hyn pan ruthrodd y dorf ar