Tudalen:Profiadau Pellach 01.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Lloyd George yn Birmingham yn amser Rhyfel De Affrica, a phan gyhoeddodd Arglwydd Lansdowne ei lythyr heddwch yn 1917, a phan geisiodd MacDonald a Snowden fyned i Sweden i gyfarfod cynrychiolwyr Gwerinol yr Almaen, ac yn fy mhrofiadau fy hunan yn helyntion cyfalaf a llafur yn 1921 a 1926.

Pan ymddangosodd ei achos drachefn yn Sasiwn Porthcawl-gwrthodasai'n bendant y cais am iddo apelio at Henaduriaeth De Caerfyrddin, fel na byddai iddynt dybio nad oedd dim byd annheg mewn taflu allan ddeucant o hen ac ifainc-ymlynodd wrth ei argyhoeddiad nad oedd gan neb hawl i ddisgwyl iddo gamu un cam ymhellach na'r hyn a warentid gan ei brofiad cywiraf ei hun. Chwiliai am bont, ond nid ar draul rhoi celwydd yn yr enaid. A phan ofynnwyd iddo'n gyhoeddus gan ŵr blaenllaw o lawr y Sasiwn honno, "A ydyw Mr. Williams yn awr yn credu yn Nuwdod Crist?" atebodd yntau yng ngeiriau'r Ysgrythur fod "Duw yng Nghrist yn cymodi'r byd ag Ef er hun." Pan ofynnwyd iddo eilwaith gan yr un gŵr a ydoedd yn awr yn bosibl iddo gredu "ym mhersonoliaeth yr Ysbryd Glân," fe atebodd yn syml yng ngeiriau'r pennill, "Tydi wyt ysbryd Crist, a'th ddawn sydd fawr iawn a rhagorol."

Pa fodd bynnag, ar gynigiad y Dr. Owen Prys, fe'i derbyniwyd yn ôl i waith cyhoeddus y Cyfundeb, yn unig ac yn. hollol ar sail ei ysgrif i'r Goleuad a'i allu i dderbyn y Datganiad Byr fel amlineliad o'i ffydd

Ar ôl ymdrech faith ac anodd ac unig i bontio yng nghyfeiriad yr eneidiau effro a chyfeillgar a oedd y tu mewn i'r Hen Gorff, daeth yr amser i sefydlogi'r pen arall i'r bont. Bellach yr oedd y Community House yn y Tumble wedi ei adeiladu trwy lafur ac aberth y grŵp yno. Gwelai'n glir fod yno ddeunydd arweinyddiaeth annibynnol a bod y gogwydd fwy-fwy i gyfeiriad y Crynwyr, heb efallai fod yn ddigon cynhwysfawr i ddal y rhai a werthfawrogai hen simbolau eu tadau ac a ddymunai Fedydd a Chymun. Gwelai mai'r peth tecaf â thŵf mewnol a rhydd y grŵp, oedd iddo ef bellach beidio ag ymyrryd mewn ffordd arweiniol, ond awyddai am barhau'n ymddiriedolwr ac yn aelod o'r Tŷ Cymdeithas. Gyda chryn ddwyster a phetruster fe ysgrifennodd atynt i'r perwyl hwnnw, ond nid hir y bu heb ddeall bod craith y diarddel ffol ac anffodus eto heb wella, a bod ei amcan a'i weithred yntau wrth geisio pont yng nghyfeiriad y wir