cenhadaeth hedd yr Efengyl yn groes i syniadau cynulleidfa barchus a Thoriaidd. Daliodd hyd ei farwolaeth yn aelod o Eglwys Loegr, a hefyd o'r Crynwyr, a hynny gyda chymeradwyaeth yr Archesgob. Cyffelyb ydoedd sefyllfa y Dr. H. G. Wood, athro mewn diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Birmingham, sydd yn parhau hyd heddiw yn Fedyddiwr ac yn Grynwr.
Yn cydweithredu â Choleg Woodbrooke, yr oedd Coleg y Dyrchafael, Coleg Cenhadol Uchel Eglwysig, Colegau Cen- hadol Carey Hall a Kingsmead (a hyffordda genhadon o bob enwad), a Choleg Fircroft i weithwyr ym myd llafur a diwydiant. Golygfa a roddai ias o orfoledd ysbryd oedd gweled yn y cyfarfod defosiynol, fore Llun, wŷr a gwragedd o'r holl golegau hyn ynghyd yn cydganu a chyd-weddïo a chyd- wrando yn Uchel Eglwyswyr, Crynwyr, Anghydffurfwyr, Almaenwyr, Ffrancwyr, cenhadon duon o Affrica ac India, efrydwyr pryd golau wledydd Sgandinafia, miliynwyr teulu Cadbury, a bechgyn o Gymru a'r pyllau glo. Cofiaf un bore Sul am 7.30 fyned at ddosbarth o weithwyr, ac am naw yn arwain yn y gweddïau yng nghyfarfod defosiynol Eglwys y Dyrchafael, ac am 11 yn mwynhau distawrwydd a seiat rydd y Crynwyr. Gwraig Prifathro Coleg y Dyrchafael ydoedd merch yr hen gyfaill parchus a bonheddig a Methodistaidd, y diweddar O. Morgan Owen, Llundain.
Athrawon eraill y coleg oedd y Parch. J. R. Coates a Fearon Haliday (gweinidog Presbyteraidd a fu mor adnabyddus trwy ei ddarlithiau ar Seicoleg Fugeiliol i weinidogion yr Hen Gorff yn ei ymweliadau â Choleg y Bala). Gwelais yn amlwg yn Woodbrooke fod deuddeg porth i Eglwys Dduw yn Seion, a chymaint oedd ein hangen am wybodaeth o'r ysbryd sydd yn goleuo ac yn chwilio i anawsterau med yliol a thraddodiadol pererinion. Gwerthfawr neilltuol ydoedd sgyrsiau Fearon Halliday ar Seicoleg Fugeiliol y Weinidogaeth, a ddadlennodd glymau gwythi a chymhellion cymhleth is-ymwybyddiaeth credinwyr. Adeiladol hefyd oedd clywed, mewn sgwrs a seiat, syniadau ac anawsterau crefyddwyr o wahanol wledydd ac eglwysi Cred. A rhywsut, ac yn raddol, fe'n rhyddhawyd rhag edrych yn gyntaf ar label dyn, wrth ddod i'w adnabod fel person a chyd-ddyn a chyfaill. Mawr yw fy niolch a'm parch wrth gofio ehangder a dwyster braint y flwyddyn yng Ngholeg Woodbrooke, a fu hefyd yn noddfa ac yn nerth i Tom Nefyn.